Mae trefnwyr Gŵyl Sŵn yng Nghaerdydd wedi cyhoeddi enwau’r 80 o artistiaid cyntaf fydd yn perfformio yno eleni.
Cynhelir yr ŵyl mewn lleoliadau amrywiol ledled Caerdydd dros bedwar diwrnod rhwng dydd Iau 18 a dydd Sul 21 Hydref.
Fe’i cynhelir am y chweched flwyddyn yn olynol eleni, ac yn ôl y trefnwyr, hon fydd yr ŵyl fwyaf uchelgeisiol ers ei lansio yn 2007.
Ymysg yr enwau sydd wedi eu henwi’r wythnos hon mae’r artistiaid Cymraeg Al Lewis, Greta Isaac ac enillwyr cystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2 Radio Cymru eleni, Nebula.
Mae slot hefyd i brosiect newydd un o aelodau’r Super Furry Animals, Guto Pryce, sef Gulp.
Er hynny, mae’n bosib mai’r enw mwyaf trawiadol ymysg yr 80 sydd wedi’i henwi hyd yn hyn yw’r gantores o Gaerdydd, Charlotte Church!
Ymysg y lleoliadau eleni mae 10 Feet Tall, Buffalo, Chapter Arts Centre, Clwb Ifor Bach, Dempseys, GLAM, Globe, Gwdihw, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, O’Neills (Stryd y Drindod), O’Neills (Heol Santes Fair), Undeb Myfyrwyr Caerdydd, Full Moon, The Gate, Moon Club & Undertone
Mae rhestr lawn o’r artistiaid a’r wybodaeth ddiweddaraf am yr ŵyl ar y wefan .