Llun cynnar o Tecwyn Ifan (llun gan Sain)
Trwy’r wythnos hon rydym yn chwarae clipiau byr o 7 cân newydd sbon gan Tecwyn Ifan.

Mae’r caneuon yn rhan o gasgliad cyflawn o waith y cerddor sydd wedi ei ryddhau ar ffurf bocs-set gan Sain yr wythnos diwethaf.

Lansiwyd y casgliad newydd mewn gig arbennig yng Nghaernarfon nos Fercher diwethaf.

Bydd ail gig lansio yn cael ei gynnal yng Ngwesty’r Dolydd, Llanrwst nos fory, Gwener 15 Mehefin.

Mae ardal Llanrwst a Dyffryn Conwy, lle mae Tecwyn bellach yn byw, wedi bod yn ddylanwad mawr ar nifer o’r caneuon newydd.

Heddiw rydym yn chwarae clip ecsgliwsif o’r bedwaredd trac, sef ‘Ar Doriad Gwawr’.

Dyma eiriau Tecwyn Ifan ei hun i osod y gân mewn cyd-destun.

“Cân am dre yn Llydaw yw hon, lle mae dyfodiad archfarchnad wedi effeithio’n andwyol ar fywyd ac arferion pysgotwyr ac amaethwyr lleol.”

“Mae’n stori gyffredin i sawl gwlad.”

Mae portread o Tecwyn Ifan yn rhifyn wythnos diwethaf (7 Mehefin) o gylchgrawn Golwg, sydd hefyd ar gael i’w brynu ar ffurf ap Golwg.