Mae’r band Cymraeg anhysbys Poket Trez yn ôl gyda sengl newydd heddiw.

Bydd ‘Rockin/Dom Da’ yn cael ei werthu ar siopau cerddoriaeth ar-lein.

Y llynedd death y band sy’n cyfuno roc, dubstep a trans i amlygrwydd gyda’r senglau ‘C’mon’ a ‘Ffati Bwm Bwm’.

Maen nhw’n gwysgo masgiau i chwarae’n fyw ac yn cymryd gofal i beidio â datgelu pwy’n union ydyn nhw. Ond mae rhai’n credo eu bod yn griw o gerddorion o ardal Sir Gaerfyrddin.

Ers hyrwyddo’r senglau yma’n ystod 2011 mae Poket Trez wedi bod yn recordio ac ymarfer deunydd newydd ar gyfer mwy o gigs dros yr Haf.

Mae’r band hefyd wedi lawnsio’u gwefan newydd – www.pokettrez.com – lle y gallwch weld fideo sy’n cyd-fynd â’r sengl newydd.

Gigs:

15 Mehefin              Cellb, Blaenau Ffestiniog

16 Mehefin              Y Llangollen, Bethesda

29 Mehefin              Dempseys, Caerdydd

30 Mehefin              Y Parrot, Caerfyrddin