Sioe C2 Lisa Gwilym yn dod i ben?
Golygydd cylchgrawn cerddoriaeth Y Selar, Owain Schiavone sy’n crynhoi digwyddiadau wythnos gymysg i’r sin gerddoriaeth Gymraeg.
Rhwng popeth, mae wedi bod yn wythnos i ddeng niwrnod ddigon diddorol yn y byd cerddoriaeth Gymraeg gyfoes. Dyma gyfle felly i grybwyll a mynegi barn ar rai o’r pethau hynny sydd wedi codi.
Croeso nôl
Yn un peth, ro’n i’n falch iawn i weld dwy sengl newydd yn cael eu rhyddhau gan fandiau Cymraeg.
Yn gyntaf oll, croeso nôl i Mattoidz! Mae’r grŵp sy’n wreiddiol o Sir Benfro wedi rhyddhau eu cynnyrch cyntaf ers dros dair blynedd ar ffurf y sengl ‘Ymerodraeth Newydd’.
Dwi wedi dilyn gyrfa Mattoidz ers iddyn nhw ddod i’r amlwg gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Tŷ Ddewi yn 2002.
Os dwi’n cofio’n iawn, fe ddaethon nhw i’r brig yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn yr Eisteddfod a mynd ymlaen i ennyn tipyn o gefnogaeth dros y blynyddoedd a ddilynodd hynny.
Mae un neu ddau o’r aelodau wedi datblygu gyrfaoedd ddigon llwyddiannus yn y cyfryngau yn ddiweddar, tra bo’r gitarydd dawnus Rhys James hefyd yn aelod craidd o fand Fflur Dafydd hefyd wrth gwrs.
Da gweld yr hogiau nôl, ac fe fyddan nhw’n gigio hefyd gyda slot yn gig ‘50’ Cymdeithas yr Iaith eisoes wedi’i gadarnhau.
O’r diwedd
Wedi addewidion lu am gynnyrch ar y gweill, roedd yn braf iawn gweld sengl gyntaf Breichiau Hir yn cael ei rhyddhau ddydd Llun.
Mae’r criw ifanc yma o Gaerdydd wedi bod yn gigio ers rhai blynyddoedd bellach, yn wreiddiol dan yr enw Just Like Frank, cyn penderfynu newid i’r enw cyfredol yn 2010.
Tydi’r ‘Peil o Esgyrn’ ddim yn ymdrech gyntaf rhy ddrwg o gwbl chwaith, ac mae’n adlewyrchu egni ac agwedd Steffan Dafydd a’i gyfeillion. Braf hefyd gweld eu bod wedi cynhyrchu fideo hyrwyddo ar gyfer y sengl hefyd (gwyliwch hwn ar waelod y darn yma).
Y newyddion da ydy bod mwy ar y gweill, a’u bod yn gobeithio rhyddhau EP yn fuan iawn.
Gai a’i Gân i Gymru
O’r diwedd, fe lwyddodd Gai Toms i ennill cystadleuaeth Cân i Gymru nos Sul.
Rŵan, fe fyddai’n onest…dwi ddim yn ffan mawr o Cân i Gymru yn ei ffurf bresennol. Dwi’n meddwl bod y fformat wedi dyddio ers amser maith, ac yn credu y gellid addasu’r fformat fel ei fod yn hybu’r sin yn fwy (ond mae hynny’n destun blog arall efallai).
Wedi dweud hynny, dwi’n hynod o falch dros Gai sydd heb unrhyw amheuaeth yn fy marn i yn un o gyfansoddwyr mwyaf talentog ei genhedlaeth.
Mae Gai wedi dod yn drydydd ac yn ail yn y ddwy flynedd ddiwethaf, felly mae’n debyg mai tri chynnig i Gymro oedd hi fod ac mae Gai yn haeddiannol iawn o’r wobr gwerth £7,500.
Bwriad Gai ydy buddsoddi’r arian yn y stiwdio mae’n ei ddatblygu – Stiwdio Sbensh, a gobeithio bod hynny’n golygu y cawn ni albwm newydd ganddo’n fuan!
Ta ta Lisa?
Newyddion llai cadarnhaol yw’r awgrym y bydd rhaglen radio Lisa Gwilym yn dod i ben yn y dyfodol agos.
Daeth y newyddion wythnos diwethaf am newidiadau lu i amserlen Radio Cymru, ac mae hynny’n effeithio hefyd ar arlwy C2 gyda’r hwyr.
Yn fuan wedyn fe glywsom ni’r newydd fod rhaglen Lisa Gwilym ar ei ffurf bresennol yn debygol o ddiflannu cyn yr hydref.
Mae’n amser caled i bawb wrth i’r toriadau frathu go iawn – mae’n rhaid i bawb wneud penderfyniadau caled.
Bydd yn ddiddorol gweld pa gynlluniau sydd i lenwi’r bwlch y bydd Lisa’n gadael, gan obeithio bod olynydd / wyr teilwng.
Yn y cyfamser mae’n werth cymryd eiliad i dalu teyrnged i’r gwaith gwych mae Lisa a’r criw cynhyrchu wedi’i wneud dros y blynyddoedd diwethaf i hyrwyddo pob elfen o’r sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes.
Mae rhywun bob amser yn gallu dweud wrth wrando ar raglenni radio os ydy’r cyflwynydd a’r tîm yn y cefndir â diddordeb a brwdfrydedd go iawn dros y gerddoriaeth a’r bobol sy’n creu a rhoi llwyfan i’r gerddoriaeth yna, a does dim amheuaeth bod hynny’n amlwg gyda rhaglen Lisa.
Cofiwch chi, mae’r criw wedi addo y bydd misoedd olaf y rhaglen yn rai gwych.