Wrth fynd i’r stiwdio i recordio caneuon ar gyfer rhaglen Sesiwn Unnos C2 Radio Cymru, roedd Carwyn Kim De Bills yn poeni ei fod yn rhy hen i aros yn effro drwy’r nos.
Bellach yn 30 oed, roedd y cerddor sydd fwya’ adnabyddus am chwarae’r gitâr fas efo Genod Droog, yn poeni na fyddai ganddo’r egni i ddal ati i recordio gydag aelodau o Yr Ods a Race Horses, sydd yn eu hugeiniau cynnar.
Roedd y BBC wedi gosod yr adar brith yma, ynghyd â Gerallt Ruggiero o’r band-un-dyn Plyci, mewn stiwdio am 12 awr ar nos Fawrth. Y dasg oedd cyfansoddi, recordio, cymysgu a rhyddhau casgliad o ganeuon newydd sbon.
“O’n i’n poeni braidd y byswn i wedi syrthio i gysgu, gan bo fi’n hŷn na’r gweddill,” meddai Carwyn Kim De Bills.
“Ond wnes i gadw’r gân mwya’ beefy tan y diwedd, a rhoi llwyth o dryms ac electro arni hi, a wnaeth honna gadw fi fynd.”
Mi lwyddodd y criw i greu band newydd sbon – Y Polyroids – a sgwennu pedair cân wreiddiol, ac ail-gymysgu dwy o’r rheiny i greu dwy fersiwn newydd.
“Pan oeddwn i efo Genod Droog roeddwn i’n rhoi’r bass line lawr gynta’, wedyn samples a lleisiau a ballu. O’n i’n sylwi efo hogia’r Ods bod gwell ganddyn nhw weithio efo gitâr acwstig a sgwennu cân gynta’, wedyn ychwanegu’r gweddill.”
Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 27 Ionawr