Mae un o fandiau mwya’r Sîn Gymraeg eisiau medru byw ar gerddoriaeth, ac er mwyn gwneud hynny maen nhw’n ceisio apelio i gynulleidfa y tu hwnt i Glawdd Offa.
Mewn cyfweliad gyda Golwg360 mae prif leisydd Cowbois Rhos Botwnnog wedi datgelu bod y band eisoes wedi teithio i’r Iwerddon a Llundain i geisio denu dilynwyr newydd.
Y bwriad yw “trio gwneud bywoliaeth o gerddoriaeth” yn ôl Iwan Huws.
Ar hyn o bryd mae’r Cowbois yn gweithio ar ganeuon newydd gyda’r cynhyrchydd Dave Wrench.
Cafodd eu dwy albym gynta’, Dawns y Trychfilod a Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn groeso brwd ar y naw.