Mae’r gantores o Sir Gaerfyrddin, Cate Le Bon wedi cael ei henwebu ar gyfer Gwobr Mercury eleni.

Mae hi’n un o 12 o artistiaid sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer un o wobrau mwyaf anrhydeddus y byd cerddoriaeth.

Cafodd mwy na 200 o albymau eu hystyried ar gyfer y wobr, a chafodd ei halbym Reward gydnabyddiaeth, fisoedd yn unig ar ôl iddi dderbyn grant gan Gronfa Momentum PRS Foundation, sydd yn derbyn nawdd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.

“Llongyfarchiadau i Cate Le Bon, un o dri o artistiaid a gefnogwyd gan Momentum sydd ar restr enwebiadau eleni – ynghyd ag Anna Calvi a Little Simz,” meddai Joe Frankland, prif weithredwr PRS Foundation.

“Rydym yn falch iawn ein bod, gyda chymorth Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, trwy Momentum, yn gallu cefnogi artistiaid Cymraeg talentog fel Cate a’u helpu i gyrraedd cam nesaf hanfodol eu gyrfa.”