Gwilym oedd prif enillwyr Gwobrau’r Selar yn Aberystwyth neithiwr (nos Sadwrn, Chwefror 16), wrth iddyn nhw gipio pump o wobrau, gan gynnwys y Band Gorau.
Aeth y band o Wynedd a Môn adref gyda gwobrau’r Fideo Cerddoriaeth Gorau (‘Cwîn’), y Gwaith Celf Gorau (am yr albwm ‘Sugno Gola’), y Gân Orau (‘Catalunya’) a’r Record Hir Orau (‘Sugno Gola’).
Daw’r gwobrau flwyddyn wedi iddyn nhw gipio gwobr y Band neu Artist newydd Gorau.
“Rydan ni wedi bod yn dod i’r Gwobrau i fwynhau yn y gynulleidfa, ac roedd perfformio yma llynedd a gadael gydag un wobr yn wych” meddai Ifan Pritchard, gitarydd a phrif ganwr Gwilym.
“Mae mynd adra efo pump gwobr eleni jyst yn hollol anhygoel, ac rydan ni’n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi pleidleisio drostom ni.”
Yr enillwyr eraill
Lewys, un o artistiaid eraill label Recordiau Côsh, gipiodd y wobr am y Band neu Artist Newydd Gorau.
Aeth gwobr yr Artist Unigol Gorau i Alys Williams am yr ail flwyddyn yn olynol.
Enillydd y Record Fer Orau oedd Trŵbz.
Clwb Ifor Bach ddaeth i’r brig yn y categori Hyrwyddwr Cerddoriaeth Gorau, a Maes B gipiodd y wobr am y Digwyddiad Byw Gorau am y pumed tro.
Y digrifwr Tudur Owen gafodd ei enwi’n Gyflwynydd Gorau, a Seren y Sîn yn mynd i Branwen Williams, hyrwyddwr o’r Bala i label I KA CHING.
Mark Roberts a Paul Jones o’r band Y Cyrff, Catatonia ac Y Ffyrc enillodd y wobr Cyfraniad Arbennig.
Esiampl dda
“Mae Gwilym wedi dangos esiampl i grwpiau ifanc Cymraeg heb os,” meddai Owain Schiavone, prif drefnydd y Gwobrau.
“Flwyddyn yn ôl roedden nhw’n dechrau sefydlu eu hunain ac yn cipio’r wobr ‘Band neu Artist Newydd’.
“Maen nhw wedi defnyddio hynny fel sbardun, codi momentwm ac adeiladu cynulleidfa sylweddol. Does dim dwywaith eu bod nhw’n boblogaidd dros ben, ac roedd yr ymateb i’w set wrth gloi y Gwobrau’n gadarnhad o hynny.
“Mae’r gwobrau wedi bod yn llwyddiant ysgubol eleni, gyda thocynnau nos Sadwrn wedi eu gwerthu i gyd dair wythnos ymlaen llaw, a dros 1500 o bobl yn dod i fwynhau’r gerddoriaeth dros ddwy noson eleni.
“Mae’n profi bod galw mawr am gerddoriaeth fyw yn y Gymraeg, a gwerthfawrogiad o’r artistiaid gwych sydd gyda ni ar hyn o bryd.”
Yr enillwyr yn llawn
Cân Orau (Noddir gan PRS for Music): CATALUNYA – GWILYM
Hyrwyddwr Annibynnol Gorau (Noddir gan Dydd Miwsig Cymru): CLWB IFOR BACH
Cyflwynydd Gorau (Noddir gan Heno): TUDUR
Artist Unigol Gorau (Noddir gan Galactig): ALYS WILLIAMS
Band neu Artist Newydd Gorau (Noddir gan Gorwelion): LEWYS
Digwyddiad Byw Gorau (Noddir gan Tinopolis): MAES B
Seren y Sin (Noddir gan Ochr 1): BRANWEN WILLIAMS
Gwaith Celf Gorau (Noddir gan Y Lolfa): SUGNO GOLA – GWILYM
Band Gorau (Noddir gan Brifysgol Aberystwyth): GWILYM
Record Fer Orau (Noddir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg): CROESA’R AFON – TRŴBZ
Fideo Cerddoriaeth Gorau (Noddir gan Hansh): CWÎN – GWILYM
Gwobr Cyfraniad Arbennig (Noddir gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant): Mark Roberts a Paul Jones