Mae’r stiwdio lle recordiodd Queen y gân ‘Bohemian Rhapsody’ – rhif un yn y siartiau Prydeinig dros Nadolig 1975, ac eto yn 1991 wedi marwolaeth Freddie Mercury – wedi cael dylanwad mawr ar y sîn gerddoriaeth Gymraeg, yn ôl y cerddor Geraint Davies.
Ddechrau’r mis, fe ddaeth i’r amlwg mai’r clasur roc, a gafodd ei recordio yn stiwdio Rockfield yn Sir Fynwy, yw’r gân oedd wedi’i ffrydio’r nifer fwyaf o weithiau yn ystod yr ugeinfed ganrif.
Ac roedd hi’n ôl yn y siartiau’n ddiweddar yn sgil ffilm sy’n dwyn enw’r gân, ac sy’n dilyn hynt a helynt y canwr Freddie Mercury, y canwr sy’n cael ei bortreadu gan Sacha Baron Cohen.
Bydd hanes y stiwdio yn cael ei adrodd yn y rhaglen ‘Taith Bryn Terfel – Gwlad y Gân’, a fydd yn cael ei darlledu ar S4C (8 o’r gloch) ar Noswyl Nadolig.
Fe fydd hefyd yn edrych ar nifer o leoliadau eraill yng Nghymru a thu hwnt sydd wedi cael dylanwad ar gerddoriaeth Gymraeg, gan gynnwys Llansteffan, Llanofer, Llanelli, Prestatyn, Rhuthun a Lerpwl.
Recordio gyda Hergest
Roedd Geraint Davies yn aelod o Hergest, a recordiodd yn y stiwdio fyd-enwog yn y 1970au.
Recordiodd y band EP yno yn 1973-74 – un a oedd yn cynnwys ‘Cân Elgan’ a ‘Dewch i’r Llysoedd’ – “cân brotest addas iawn ar gyfer yr amser”, meddai am y gân a gyfansoddodd ei hun.
“Yn Hergest, roedd pedwar ohonon ni a phawb yn sgrifennu’r caneuon, felly un gân yr un oedd ar yr EP gyntaf.”
Daeth ail EP yn fuan wedyn, a hynny ar ôl i’r stiwdio gael ei adnewyddu.
“Roedden nhw wedi diweddaru’r stiwdio erbyn hynny,” meddai Geraint Davies. “Mae gyda fi ryw gof mai rhywbeth fel pedwar neu wyth trac, neu 16 trac hyd yn oed, oedd ar yr ail un, oedd yn rhoi cymaint mwy o palate, yn nhermau paentio.
“Roedd dyn yn gallu arbrofi dipyn mwy – efallai’n ormodol!”
Stiwdio broffesiynol
Yn ôl Geraint Davies, roedd sylfaenwyr y stiwdio, Kingsley a Charles Ward, wedi rhoi’r profiad cyntaf o recordio mewn stiwdio broffesiynol i nifer o fandiau mawr y byd Cymraeg yn y cyfnod.
“Mae ’na arwyddocâd personol i fi a’r rheiny ohonon ni oedd yn recordio yn Gymraeg achos taw dyna’n profiad cynta’, nifer ohonon ni, o recordio mewn stiwdio broffesiynol,” meddai.
“Gyda Hergest o’n i, ond roedd ’na bobl eraill yn recordio yno’r un pryd – Ac Eraill, Sidan gyda Caryl Parry Jones, Edward H Dafis, Tebot Piws, mi wnaeth rheiny i gyd recordio yn Rockfield, ymhell cyn dyddiau Queen!
“Mae cyfraniad Kingsley [Ward] yn aruthrol, jyst o ran rhedeg y stiwdio. A bydden i’n fodlon dweud bod Kingsley a’i frawd Charles, achos oedd hwnnw’n rhan o’r peth hefyd, yn eitha’ cymeriad. Fydden i’n synnu dim fod hynny’n rhan o’r gyfrinach hefyd.
“Wedi cwrdd â fe unwaith, byddech chi’n moyn mynd nôl i weithio gyda fe eto. Fe, yn anad neb, oedd wedi adeiladu’r stiwdio neu wedi dweud beth oedd angen yn y stiwdio.
“Mae ei gymeriad e, pan gwrddais i fe cwpwl o wythnosau’n ôl gyda Bryn [Terfel]… “I remember you,” meddai fe. Dwi’n amau hynny’n fawr iawn o ystyried faint o bobl sydd wedi bod yna ers i fi fod ’na dros ddeugain mlynedd yn ôl.
“Ond dyna’r teip o foi yw e – cyfeillgar, easygoing ond yn gwybod yn union beth mae e’n gwneud.”
Dylanwad ar recordio yn Gymraeg
Ar ben dylanwadu ar fandiau’r cyfnod, mae Geraint Davies yn dweud bod y stiwdio – y stiwdio breswyl gyntaf yn y byd – hefyd wedi bod yn bwysig yn natblygiad cwmni Recordiau Sain.
“Ar y pryd, roedd pawb eisiau recordio i Sain, y cwmni ifanc ’ma oedd yn trio codi proffesiynoldeb.
“Wrth gwrs, wrth i Sain logi stiwdio Rockfield, mi oedd e’n rhoi sylfaen neu gyfle cynta’ i ni brofi’r proffesiynoldeb ’na mewn stiwdio, gallu arbrofi fwy ac yn y blaen.
“Mae’n siŵr fod Rockfield ei hun wedi rhoi syniadau i Sain ar sut i adeiladu’u stiwdio eu hunain.”
… a dylanwad ehangach
Y tu allan i Gymru, mae’r stiwdio wedi llwyddo i ddenu rhai o enwau mwya’r byd cerddoriaeth ar hyd y blynyddoedd – mae’r rhestr yn cynnwys David Bowie, Elvis Costello, Coldplay ac Oasis.
“Dyna beth sydd wedi’i rhoi hi ar y map yw’r grwpiau byd enwog sydd wedi mynd yna yn ystod y blynyddoedd diwetha’ ac yn dal i fynd ’na,” meddai Geraint Davies.
“Mae’n braf bod hynny’n digwydd yng Nghymru.
“Mae Kingsley yn cicio’i hunan fod e ddim wedi dechrau [y llyfr llofnodion], dwi’n meddwl mai diwedd y 70au neu ddechrau’r 80au. Felly mae lot o bobl sydd wedi bod yna, yn sicr yn y cyfnod cynnar, dyw eu llofnodion nhw ddim yna.
“Ond hyd yn oed wedi dweud hynny, mae ’na lot fawr o bethau ’na. Mae enwau pobl fel David Bowie, Elvis Costello… Mae e fel rhyw fath o Who’s Who.”