Mae dau gyfansoddwr – y naill yn dysgu Cymraeg a’r llall yn ddi-Gymraeg – wedi ennill gwobr BAFTA Cymru am eu gwaith ar y cyfresi cyfochrog Un Bore Mercher / Keeping Faith.

Amy Wadge a Laurence Love Greed yw cyfansoddwyr holl ganeuon y gyfres sy’n rhedeg ochr yn ochr ar S4C a BBC, ac sydd wedi’i lleoli yn Nhalacharn.

Ac fe gawson nhw eu gwobrwyo am eu gwaith yn ystod noson gwobrau BAFTA Cymru yn Neuadd Dewi Sant nos Sul (Hydref 14), wrth ennill gwobr am y Gerddoriaeth Wreiddiol Orau.

Roedd yn un o dair gwobr i’r gyfres ar y noson, wrth i Eve Myles ddod i’r brig yng nghategori’r Actores Orau, a gwobr yr Awdur Gorau yn mynd i Matthew Hall.

‘Her’

Rhyngddyn nhw, mae Amy Wadge a Laurence Love Greed wedi cydweithio â sêr mwya’r byd cerddoriaeth.

Tra ei bod hi wedi cydweithio ag Ed Sheeran, Kylie Minogue a John Legend, mae e wedi cydweithio â Paul McCartney, George Michael, Coldplay a Jay Z, ac wedi cyfansoddi ar gyfer y ffilm James Bond, Quantum of Solace.

Ac roedd Amy Wadge yn gyfrifol am ysgrifennu geiriau cân enwocaf Ed Sheeran, Thinking Out Loud, gan ennill gwobr Grammy yn yr Unol Daleithiau ddwy flynedd yn ôl.

Ond fe wynebon nhw gryn her o gydweithio mewn ail iaith yn achos Amy Wadge, ac iaith newydd sbon yn achos Laurence Love Greed.

Yn ôl Amy Wadge, i’w chyd-gyfansoddwr mae’r clod mwyaf am y gwaith.

Dywedodd wrth golwg360, “Fe wnes i fwy neu lai yr hyn dw i bob amser yn ei wneud, sef ysgrifennu llwyth o ganeuon a’u pasio nhw i Laurence, oedd wedi llwyddo i’w gweu nhw i mewn i’r sgript.

“Er bo fi’n sgrifennu’n benodol ar gyfer y gyfres gyfan, fe wnes i sgrifennu ar gyfer y cymeriadau penodol, sy’n debyg iawn i’r hyn dw i’n ei wneud yn ddyddiol wrth sgrifennu caneuon i bobol benodol.

“Laurence yw’r un a wnaeth i’r cyfan weithio. Dw i ddim yn mynd i ddweud celwydd a dweud nad oedd [ysgrifennu’n ddwyieithog] yn her. Mae’n siŵr ei bod hi i Laurence hefyd.

“Roedd rhaid cael y caneuon wedi’u cyfieithu a’u canu eto, felly roedd rhaid i ni ei gael e’n iawn.”

Y Saesneg yn gyntaf, a’r Gymraeg yn dilyn

Dywed Laurence Love Greed mai eu bwriad oedd ysgrifennu’r caneuon Saesneg yn gyntaf, ac yna gweithio oddi ar y sgript Saesneg er mwyn cyfansoddi’r caneuon Cymraeg.

Ond roedd her ychwanegol o geisio sicrhau bod emosiwn y caneuon yn gywir ac yn cyfateb i’w gilydd.

“Roedd y sgriptiau’n debyg iawn, felly roedd hi’n ddigon hawdd mynd o’r naill i’r llall. Ond roedd yn sicr yn her, gan fod angen gwybod beth oedd yn cael ei ddweud er mwyn gwybod sut ddylai’r gerddoriaeth swnio.

“Ro’n i’n gallu cael sgwrs gyda’r cyfarwyddwr [Pip Broughton] beth bynnag. Fe gydweithion ni’n agos iawn ar sut allen ni eu gwneud nhw’n fwy emosiynol pe bai angen. Roedd hynny’n her!”

Yn ôl Laurence Love Greed, roedd Amy Wadge wedi gorffen ei rhan hi o’r gwaith yn gynnar yn y broses.

“Gweithion ni allan wedyn lle byddai’r caneuon yn mynd ym mhob pennod. Wedyn, wnes i lenwi’r bylchau yn y naratif a’r troeon trwstan oedd wedi cael eu hysbrydoli weithiau gan y caneuon eu hunain.”

Beth nesaf i Amy Wadge?

Mae 2018 eisoes wedi bod yn flwyddyn brysur i Amy Wadge, sydd ynghanol taith ac a oedd wedi gweithio ar albwm Kylie Minogue yn Nashville yn gynharach eleni.

Yn fwyaf diweddar, bu’n cydweithio â John Legend a Camila Cabello yn yr Unol Daleithiau, sy’n destun “cyffro”, meddai.

“Mae gyda fi bob math o bethau cŵl yn dod ma’s. Dw i hefyd newydd orffen gwneud albwm Sheridan Smith yn y DU.

“Ond mae tipyn o ’mywyd i yn America ar hyn o bryd, felly dw i’n mynd a dod eitha’ tipyn.

“Dw i’n gobeithio bod adre’ am weddill y flwyddyn, ond mae hynny’n edrych yn annhebygol ar hyn o bryd!”