Y gyfrinach y tu ôl i barhad unrhyw fand yw “dyfalbarhad a hiwmor”, meddai prif leisydd Ail Symudiad.
Mae’r band o Aberteifi wedi bod yn gigio ac yn rhyddhau caneuon yn gyson ers blynyddoedd, ac eleni maen nhw’n dathlu deugain mlynedd o fodolaeth.
I nodi’r pen-blwydd arbennig, maen nhw wedi rhyddhau albym newydd o ganeuon o’r enw Y Man Hudol, ac roedd cyngerdd dathlu hefyd yn Theatr Felin-fach dros y penwythnos (dydd Sadwrn, Medi 15).
“Heb hiwmor, sa i’n credu bydden ni wedi gallu cario mla’n gwmynt, achos ry’n ni’n cael sbort yn ei wneud e,” meddai Richard ‘Fflach’ Jones wrth golwg360.
“Wen i’n chware lot yn yr wythdege, ac wedd e’n dachre teimlo fel gwaith bryd hynny, achos wen ni’n chware bob penwythnos…
“Ond we ti’n teimlo, yn enwedig yn yr wythdege, fod y gynulleidfa a’r band fel bod nhw’n un. Wen ni ddim yn teimlo ein bod ni’n sêr pop o gwbwl – wen ni’n ffrindie gyda lot o’r gynulleidfa.”
O ‘Gaws Caled’ i ‘Ail Symudiad’
Pan gafodd y band ei sefydlu yn ystod haf 1978, yr enw gwreiddiol arno oedd ‘Caws Caled’, ond chafodd yr enw hwnnw ddim aros yn hir, meddai Richard Jones, gan ei fod yn “rhy cheesy”.
“Newidion ni’r enw i Ail Symudiad achos wen i’n gweld y don newydd, fel The Undertones, Sex Pistols a’r Boom Town Rats, yn ail symudiad o roc a rôl o’r pumdege.”
Mae’r cerddor yn ychwanegu bod unigolion a bandiau Cymraeg wedi bod yn ddylanwad arnyn nhw ar y cychwyn hefyd.
“Wen i a Wyn yn lico Meic Stevens, Tebot Piws… a hefyd unigolion fel Dafydd Iwan, Huw Jones, Heather Jones a Geraint Jarman a oedd bryd hynny yn Bara Menyn. Wen i wedi bod yn dilyn nhw ers pan o’n i tua phymtheg yn Ysgol Aberteifi.
“Ond amser ffurfion ni’r band, wen ni ddim yn siŵr pwy iaith ar y pryd. Ond ethon ni i weld Trwynau Coch yn chwarae yn Nrefach-Felindre, a siarad gyda nhw am sbel, ac ar ôl ʾny wedyn penderfynu ar yr enw, ac wedyn mynd ati i ymarfer.”
“Dilyniant eitha’ iachus”
Er bod cerddoriaeth y band wedi newid dros y blynyddoedd – o fiwsig pync i bop – ac er mai Richard Jones a’i frawd iau, Wyn, yw’r unig ddau aelod gwreiddiol sy’n dal i chwarae, mae gan Ail Symudiad “ddilyniant eitha’ iachus”, meddai’r brawd hynaf.
“Wen ni’n chware yn Llangrannog, ac wedd criw o ferched yn ffrynt ishe clywed ‘Garej Paradwys’ dro ar ôl tro ar ôl tro, ac wedd rheina ddim mwy na 16 neu 17…
“Sa’ i’n gweud ein bod ni mor boblogaidd a phobol fel Candelas… ond mae still pobol yn dilyn ni, a ni’n ddiolchgar iawn am hynny.”