Mae Dydd Miwsig Cymru – sy’n cael ei gynnal heddiw (Chwefror 9) – yn “gyfle gwych” i herio ystrydebau.
Dyna yw barn un o aelodau Los Blancos – band slacyr o Gaerfyrddin fydd yn nodi’r achlysur trwy gyhoeddi dwy sengl mewn gig yng Nghaerdydd.
“Mae yna ystrydeb bod diwylliant neu gerddoriaeth Cymraeg, wedi’i gyfyngu i fywyd capel a’r Eisteddfod,” meddai Dewi Jones, wrth golwg360.
“Mae’n bwysig iawn dangos bod cymaint mwy nag hynny. Erbyn heddiw, rydych chi’n gallu gwrando ar hip hop, reggae, roc neu pop; i gyd trwy’r Gymraeg.
“Mae’n gyfle gwych i ddangos hynna, ac i ddangos hynny i gynulleidfa fwy eang.”
Hyder
Daw cyhoeddiad ‘Datgysylltu’ a ‘Chwarter i dri’ yn sgil sengl gyntaf y band ‘Mae’n anodd deffro un’ – cân sy’n drymach a chyflymach, yn ôl Dewi Jones.
“[Gyda’r senglau diweddaraf] ry’ch chi’n gweld ochr mwy dwfn,” meddai.
“Ac yn sicr ar ‘Chwarter i dri’ – ochr mwy sensitif i’r band. Trafod themâu dwys, ond ar yr un pryd mae yna awyrgylch eitha’ hwylus iddyn nhw hefyd.
“Rydych chi yn gallu gweld esblygiad, ac efallai ein bod ni’n fwy sicr ar y sŵn. R’yn ni’n fwy hyderus ynglŷn â beth yw’n sŵn ni nawr. Gallwn ni adeiladu ar hwn a gobeithio daw pethau gwell eto, yn y dyfodol gyda ni.”
“Anelu’n uwch”
Wrth synfyfyrio ar lwyddiant eu label, Recordiau Libertino, a’i bandiau; mae Dewi Jones yn nodi nad yw Los Blancos am orffwys ar eu bri.
“Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae wedi bod yn anhygoel faint o sylw mae’r label wedi cael a’r bandiau,” meddai gan nodi bod Radio 1 eisoes wedi chwarae’u senglau newydd.
“Roedd ARGRPH, Adwaith a Los Bancos i gyd wedi gwneud yn dda iawn llynedd. Ry’n ni’n gobeithio adeiladu ar hynna eleni. Nid bodloni â hynna – parhau i anelu’n uwch.”
Y gig
Bydd Los Blancos yn perfformio yn y Castle Emporium, Stryd Womanby; ynghyd â Papur Wal, Mellt, The Gentle Good, Meic Stephens ac eraill.
Mae modd lawr lwytho ‘Datgysylltu’ a ‘Chwarter i dri’ yn rhad ac am ddim.