“O’dd Maes B eleni yn ddiddorol iawn actually, oeddwn i’n lwcus iawn i gael bod yn un o’r merched [oedd yn chwarae],” meddai Katie Hall, prif leisydd Chroma.
“Fi, Heledd o HMS [Morris] ac wrth gwrs Elan [Evans] yn DJo, ni oedd yr unig dair merch oedd yn chwarae.
“Fi’n cofio pryd ’ny, oedd lot o ffỳs amdano fe fel ‘o, sdim digon o ferched ar y line-up’… [ond] oes yna ddigon o ferched mas yna sy’n mynd i allu llenwi’r gwagle sy’n apelio at lot o bobol sy’n mynd i Faes B?
“On i’n meddwl mai nawr yw’r amser i ddatblygu pobol i gael y cyfle i ferched, yn enwedig mewn ysgolion, sy’n mynd i gigs, i gefnogi nhw’n mynd i gigs a chael nhw i drio bod mewn bandiau.”
Triawd roc o Aberdâr yw Chroma. Enillodd Zac Mather, Liam Bevan a Katie Hall gystadleuaeth Brwydr y Bandiau yn 2016 ac erbyn haf 2017, roedden nhw wedi cael slot yn un o wyliau mwyaf Prydain, Reading a Leeds.
“Fi’n gallu gwneud yr SRG thing ’ma”
“Roeddwn i’n gwrando ar [fand] Y Ffug, ac roedd un o fy ffrindiau i, Elin, yn gwrando ar Swnami, Ffug a’r Eira… o’n i fel ‘actually, fi’n gallu gwneud yr SRG thing ’ma,” meddai Katie am ddechrau’r band.
“Mae’r SRG yn really cefnogol achos, mae pawb yn yr SRG mo’yn cefnogi ti, maen nhw mo’yn ti gwneud yn dda.
“Mae Brwydr y Bandiau yn rhywbeth oedd yn anhygoel i ni, wnaeth e roi ni ar bedestal… ti’n ennill £1,000, roedd hwnna’n really helpful i ni… ti’n ennill Brwydr y Bandiau a’r flwyddyn wedyn, falle ti’n gallu chwarae yn Reading and Leeds festival.”
Yn ôl Katie Hall, y peth pwysicaf er mwyn cael mwy o artistiaid benywaidd yn yr SRG yw meithrin merched yn yr ysgol.
“Mae’n rhaid i ni frwydro’r cysyniad yma bod merched mewn bands yn rhywbeth amgen, dyw e ddim,” meddai.
“Ym Maes B, mae’n rhaid i ti gael merch yn hedleino neu ferch [yn chwarae] cyn yr headliner.
“Ond hefyd, yn yr ysgol, mae’n rhaid i ti roi o bwyslais ar ferched yn ysgol, yn enwedig mewn ysgolion lle mae’r Gymraeg ddim o reidrwydd yn yr iaith y mwyafrif gatre’.
“Mae’n rhaid i chi fynd i mewn i’r llefydd yna a dangos iddyn nhw mae ‘na diwylliant yma sydd y tu hwnt i Ddydd Gŵyl Dewi a rygbi.”