Huw Stephens
Mae trefnwyr Gŵyl Sŵn wedi lansio Gwobr Gerddoriaeth Gymreig, a datgelu fod 12 band ar y rhestr fer i ennill albym Gymreig orau’r flwyddyn.

Dyma’r ceffylau cerddorol sydd yn y ras:

Al Lewis – In The Wake

Colorama – Box

Funeral For A Friend – Welcome Home Armageddon

Gruff Rhys – Hotel Shampoo

Lleuwen – Tân

Manic Street Preachers – Postcards from a Young Man

Stagga – The Warm Air Room

Sweet Baboo – I’m a Dancer/Songs About Sleepin’

The Blackout – Hope

The Gentle Good – Tethered for the Storm

The Joy Formidable – Big Roar

Y Niwl – Y Niwl

 Bydd deg beirniad yn mynd ati i ddewis y pencampwr pop ac enw’r buddugol yn cael ei ddatgelu ar ddydd Gwener Hydref 21 2011 yn ystod Gŵyl Sŵn  yng Nghaerdydd.

 “Rydym yn falch iawn o lawnsio Gwobr Gerddoriaeth Gymreig gyda deuddeg albym cryf ar y rhestr fer,” meddai’r DJ Radio One Huw Stephens, un o drefnwyr Gŵyl Sŵn

“Mae’r rhestr yn adlewyrchiad o’r gerddoriaeth o safon uchel sydd yn cael ei greu yng Nghymru ac yn cael ei glywed o amgylch y byd. Rydym yn gobeithio bydd y Wobr yn dod a’r gerddoriaeth i gynulleidfa newydd, ac rydym yn edrych mlaen i enwi enillydd ar Hydref 21.”