Clawr Uwchben y Drefn
Dros y penwythnos fe lansiodd y Sibrydion eu halbwm newydd ‘Uwchben y Drefn’.

Hwn yw pedwerydd albwm stiwdio’r grŵp, yn dilyn dau Gymraeg JigCal (2005) a Simsalabim (2007), a’r un Saesneg, Campfire Classics (2009).

Maen nhw wedi penderfynu i ryddhau Uwchben y Drefn ar eu label eu hunain, sef JigCal.

Gigs lansio – gogledd a de

Fe lansiwyd yr albwm gyda dwy gig gefn wrth gefn, y gyntaf nos Wener yng Nghaernarfon, a’r ail yng Nghlwb Ifor Bach Caerdydd nos Sadwrn.

Aeth y gigs yn dda iawn yn ôl Osian Gwynedd o’r grŵp.

“Mae di bod yn dipyn o benwythnos i ddeud y lleiaf” meddai Osian Gwynedd wrth Golwg360.

Albwm amrywiol

Mae’r albwm diweddaraf yn cynnwys 13 o draciau newydd sbon, ac mae caneuon bachog fel ‘Cadw’r Blaidd o’r Drws’ a ‘Dawns y Dwpis’ yn siŵr o fod yn ffefrynnau.

Mae caneuon yr albwm yn cyfuno pob math o genres cerddorol, a dyma record fwyaf amrywiol y band hyd yn hyn.

Gellir prynu’r albwm newydd ar wefan newydd y grŵp, www.jigcal.com, ac maent yn chwarae nifer o gigs i hyrwyddo’r cynnyrch newydd rhwng hyn a diwedd yr haf.

Gigs haf y Sibrydion

29 Gorffennaf – Gŵyl y Glaw, Blaenau Ffestiniog

31 Gorffennaf – Gŵyl Rheola, Resolven

01 Awst – Maes C, Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam

06 Awst – Maes B, Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam

10 Medi – Gŵyl Gwydir, Llanrwst

25 Medi – Neuadd Gerddoriaeth y Mileniwm, Caerdydd