Crys T 'Taith Duncan Goodhew'
Fe fydd nifer cyfyngedig o grysau T arbennig ar gael i’w prynu yn ystod Taith Slot Selar dros y bythefnos nesaf.
Mae’r crysau sydd wedi eu hysbrydoli gan ganeuon diweddar a mwyaf poblogaidd dau o fandiau’r daith – Creision Hud a Sen Segur.
Indigo gan Creision Hud ydy ‘gân yr haf’ yn ôl rhai, a bydd crys T arbennig i ddathlu pumed sengl y grŵp eleni.
Taith Duncan Goodhew ydy teyrnged Sen Segur i’r nofiwr Prydeinig o’r 70au ac 80au. Mae’r gân seicadelig honno ar eu EP cyntaf, Pen Rhydd a rŵan bydd crys T i gofio’r gân.
Swfenîr o’r daith
Dim ond 50 yr un o bob crys fydd ar gael i’w prynu, a byddan nhw ar gael o’r gigs sy’n dechrau yn Dempseys, Caerdydd nos Iau yma.
“Rydan ni wedi penderfynu gwneud argraffiad arbennig o grysau T ar gyfer ffans Sen Segur a Creision Hud” meddai Rheolwr y daith, Aled Ifan.
“Byddan nhw’n rhyw fath o swfenîr i bobl gofio’r daith, ond hefyd yn ffordd o ddangos cefnogaeth i’r grwpiau wrth gwrs.”
Dyddiadau llawn y daith:
23 Mehefin – Dempseys, Caerdydd
24 Mehefin – Clwb RAFA, Aberystwyth
25 Mehefin – The Parrot, Caerfyrddin
1 Gorffennaf – Clwb Base, Bangor
2 Gorffennaf – Clwb Rygbi Nant Conwy, Llanrwst