Mr Urdd a Rapscaliwn
Mae Eisteddfod yr Urdd Abertawe a’r Fro wedi helpu i drefnu gig am ddim hanner ffordd drwy’r wythnos.
Y gig ar nos Fercher 1 Mehefin fydd noson agoriadol Gŵyl Tyrfe Tawe, sy’n cyd-redeg gydag Eisteddfod yr Urdd eleni.
Bydd pedwar band lleol, Yr Angen, Nebiwla, Fast Fuse a’r Brodyr Coll yn perfformio yn Nhŷ Tawe, yng nghanol y ddinas.
Mae’r trefnwyr hefyd yn gobeithio rhoi llwyfan i arddangos a chyflwyno talent gerddorol pobl ifanc Abertawe.
“Ar ôl i’r Angen ennill Brwydr y Bandiau C2 Radio Cymru llynedd, mae llwyth o fandiau ifanc lleol wedi’u hysbrydoli i ddilyn yr un llwybr,” meddai Angharad Jenkins, Swyddog Llwybrau i’r Brig yr Urdd yn Abertawe.
“Dw i’n meddwl fod cerddoriaeth yn ffordd da o newid agweddau pobl ifanc am yr iaith Gymraeg, felly roeddwn i eisiau trefnu gig i’r pobl ifanc 14 oed a drosodd rydw i wedi bod yn gweithio gyda nhw, mewn awyrgylch ddiogel, lle gall grwpiau o bobl ifanc ddod i glywed ei ffrindiau yn perfformio, a rhoi cyfle iddynt gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg tu fas i’r ysgol.
“Rydyn ni am ddathlu’r ffaith bod bobl ifanc Abertawe yn gweld gwerth mewn canu’n Gymraeg ac i fod yn rhan o sîn arbennig ac unigryw.”
Ac ar noson olaf yr Eisteddfod, 4 Mehefin 2011, bydd Gig yr Aelwydydd yr Urdd/Disgo Tyrfe yn The Garage/Whitez, Uplands, Abertawe am 8:30pm, gyda’r Ods, Yr Angen, a DJ’s Cymraeg ar ddau lawr.