Clawr albwm Cainc Gwyneth Glyn
Bydd Gwyneth Glyn yn lansio ei halbwm newydd, Cainc heno, a hynny yn addas iawn o ystyried enw’r casgliad, ym mhentref Betws y Coed.
Cainc yw’r drydydd albwm i’w rhyddhau gan y gantores o Eifionydd yn dilyn Tonau yn 2007 a’i chasgliad hynod o boblogaidd, Wyneb Dros Dro yn 2005.
Mae pedair blynedd wedi pasio ers yr albwm diwethaf, ac mae yna newid amlwg wedi bod yn sŵn cerddoriaeth Gwyneth Glyn yn y cyfnod hwnnw.
“Mae yna ambell i gân ella fwy catchy nag sy’n nodweddiadol o ‘nghyfansoddi i” meddai’r gyfansoddwraig mewn cyfweliad yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos diwethaf.
“Dwi’m yn meddwl bod naws gyffredinol y gerddoriaeth wedi newid,” ychwanegodd Gwyneth Glyn wrth siarad â Golwg360 heddiw.
“Ond ma’ cael cerddorion eraill talentog fatha Cass Meurig a’i ffidil a’i chrwth, Llŷr Pari, a Dave Wrench a’i biano a’i feibraffon, yn ogystal â’r band arferol, yn ychwanegu at y caneuon.”
Gwasgu lansiad rhwng taith fyd eang
Mae lleoliad y lansiad hefyd yn berthnasol o ystyried rhai o’r cerddorion sydd wedi cyfrannu i’r albwm, gydag Alun Tan Lan a Llŷr Pari yn ddau o gerddorion amlycaf Dyffryn Conwy.
Mae Pete Richardson ar y drymiau a Cass Meurig ar y ffidil a chrwth hefyd wedi cyfrannu i’r broses recordio ac fe fyddan nhw oll yn ymuno a Gwyneth ar gyfer y lansiad.
“Yn anffodus, gorau’n byd ydi’r cerddorion, prysura’n byd!” meddai Gwyneth Glyn wrth Golwg360.
“Mae hi’n wyrthiol bod Alun Tan Lan a Pete wedi gallu sdwffio fy lansiadau i rhwng eu taith fyd-eang hefo Y Niwl a Gruff Rhys, ond byddan – mi fyddan nhw, Cass a Llyr yno.”
Band yn bywiogi’r albwm
Mae’r albwm wedi’i gynhyrchu gan Dave Wrench, ac yntau’n cyfrannu ar y piano a’r feibraffon ar rai o’r traciau.
Fe recordiwyd nifer o’r caneuon yn fyw yn y stiwdio, ac yn ogystal â chynnig teimlad gwahanol i’r casgliad, yn ôl Gwyneth roedd yn hwyluso’r broses recordio.
“Mae clyfrwch y band a’r ffaith eu bod nhw ’di hen arfer chwarae’n fyw hefo’i gilydd wedi gneud y broses recordio yn un chwim a phleserus iawn” meddai.
“O ran sŵn yr albwm, ella bod ambell un o’r caneuon â mwy o fynd ynddyn nhw a bod hynny’n ddylanwad bandiau eraill dwi ’di gweithio hefo nhw yn y blynyddoedd diweddar.”
Mae gig lansio Cainc yn cael ei chynnal am 8:00 heno (3 Mai) yng Ngwesty Glan Aber, Betws y Coed, a’r albwm allan ar label Gwinllan rŵan.