Gruff Rhys
Mae’r cerddor amryddawn Gruff Rhys wedi cyhoeddi ei fod am berfformio yng Ngŵyl Gardd Goll ym mis Gorffennaf eleni.
Fe gynhelir yr ŵyl flynyddol yn y Faenol ger Y Felinheli ar benwythnos 22, 23, 24 Gorffennaf eleni, a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol ar ôl i’r digwyddiad symud o’r lleoliad gwreiddiol ym Mharc Glynllifon.
Gig Cymreig cyntaf
Mae Gruff Rhys wedi bod yn gigio’n rheolaidd yn ddiweddar i hyrwyddo ei albwm unigol diweddaraf Hotel Shampoo a gafodd ei ryddhau ym mis Chwefror.
Er hynny, dyma’r fydd y cyfle cyntaf i’w weld yn perfformio deunydd yr albwm newydd yng Nghymru eleni.
Mae’r grŵp o’r Gogledd, Y Niwl, wedi bod yn cefnogi Gruff yn ddiweddar gan hefyd berfformio fel ei fand cefndir ac fe fyddan nhw’n ymuno â phrif ganwr y Super Furry Animals ar lwyfan Gŵyl Gardd Goll hefyd.
Set DJ hefyd efallai
Er bod si wedi bod ers amser, cyhoeddwyd y newyddion ar wefan newyddion y cerddor, y ‘Gruffington Post’ y prynhawn yma.
“Dwi’n edrych ymlaen yn arw i chwarae un o gyfresi y gwyliau Coll o’r diwedd” meddai Gruff Rhys ar ei wefan wrth wneud y cyhoeddiad.
“Mae’n bosib y byddaf yn troelli chydig o recordiau tra dwi yno hefyd” ychwanegodd.