Chuck Berry (Llun: Wikimedia Commons)
Mae un o fawrion y byd roc a rôl, y gitarydd a’r canwr Chuck Berry wedi marw’n 90 oed.
Mae’n cael ei ystyried yn sylfaenydd y genre, ac mae’n adnabyddus am glasuron fel Johnny B Goode, Roll Over Beethoven a My Ding a Ling.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’w gartref ym Missouri am oddeutu 12.40pm ddydd Sadwrn, ac fe fu farw ychydig wedyn.
Mae e wedi dylanwadu ar nifer fawr o fandiau ac artistiaid roc a rôl dros y degawdau, gan gynnwys y Beatles, y Rolling Stones, The Who a Bruce Springsteen.
Fe dderbyniodd wobr cyfraniad oes yn y gwobrau Grammy yn 1984, ac fe gafodd ei gynnwys yn oriel yr enwogion y byd roc a rôl ddwy flynedd yn ddiweddarach.
Aeth My Ding a Ling i frig y siartiau yn 1972, yr unig un o’i ganeuon i gyflawni’r gamp honno.