Mae S4C wedi penderfynu peidio â chael beirniaid, mentoriaid na wal i ddangos negeseuon Twitter yn ystod cystadleuaeth Cân i Gymru eleni gyda’r bwriad o fynd â hi’n ôl at ei gwreiddiau.
Bwriad hyn, yn ôl cynhyrchydd y rhaglen, yw canolbwyntio’n fwy ar y caneuon gyda’r gwylwyr i bleidleisio o blith y deg cân orau.
Er hyn, mae’r rhestr fer wedi’i llunio gan banel o feirniaid a hynny wedi i fwy na chan ymgais ddod i law’r gystadleuaeth.
Yn eu plith mae enwau adnabyddus gan gynnwys Geraint Lövgreen a Richard Marks sydd wedi ennill y gystadleuaeth yn y gorffennol, ynghyd ag ambell enw newydd.
Mwy na 100 ymgais
“Mi oedd yn bleser bod ar y panel ond yn ychydig o sioc i’r sustem gan fod dros gant o ganeuon i’w beirniadu,” meddai Geraint Jarman a enillodd y wobr yn 1972 gyda’r gân ‘Pan Ddaw’r Dydd’.
Yn cyd-ddethol gydag ef oedd Alys Williams, Mei Gwynedd, Rhydian Dafydd o’r Joy Formidable a Sion Llwyd cynhyrchydd Cân i Gymru.
“Rydym ni fel beirniaid eisiau cynnig pob math o genres i wylwyr, oherwydd does dim un teip o gerddoriaeth ddylai gael ei hystyried fel y gận i Gymru,” meddai Geraint Jarman.
“O’r deg cân, mae un neu ddwy yn apelio’n fawr ata i. Ond wna i ddim dweud dim mwy!”
Dim wal Twitter
Er bod cyfrannu drwy Twitter wedi profi’n boblogaidd yn y blynyddoedd diweddar, mae S4C wedi cadarnhau na fydd sgrin i ddangos y negeseuon hynny i’w gweld yn ystod y rhaglen.
“Ffocws Cân i Gymru yw’r caneuon, ac eleni fe fydd hyn i’w weld fwyfwy,” meddai Sion Llwyd, cynhyrchydd y rhaglen.
“Does dim mentoriaid, dim beirniaid, dim wal Twitter. Mae’r pwyslais ar y caneuon ac fe fyddan nhw’n cael eu perfformio gan gantorion dawnus i gyfeiliant band byw.”
Bydd y cystadleuwyr yn cystadlu am wobr o £5,000 i’r enillydd, £2,000 i’r ail a £1,000 i’r drydedd gyda Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris yn cyflwyno’r rhaglen nos Sadwrn, Mawrth 11.
Y caneuon a’r cyfansoddwyr
- ‘Ti yw fy Lloeren’ – gan Hywel Griffiths, artist graffeg o Gaerdydd.
- ‘Curiad Coll’ – gan Hawys Bryn Williams a Gwion John Williams, disgyblion yng Ngholeg Meirion Dwyfor ac Ysgol Brynrefail.
- ‘Cân yr Adar’ – gan Llinos Emanuel, myfyrwraig yn astudio Jazz yng Ngholeg Trinity, Llundain, ond o Gaerfyrddin yn wreiddiol.
- ‘Eleri’ – gan Betsan Haf Evans o Bontarddulais sydd wedi chwarae mewn bandiau gan gynnwys Genod Droog, Daniel Lloyd a Mr Pinc, Alcaraz, Johnny Panic a Gwdihŵ.
- ‘Fy Nghariad Olaf i’ – gan Richard Vaughan ac Andy Park, dau gerddor o ardal Bangor.
- ‘Rhydd’ – gan Cadi Gwyn Edwards o Lanrwst a disgybl chweched dosbarth yn Ysgol Dyffryn Conwy.
- ‘Gelyn y Bobl’ – gan Richard Marks o Lanbedr Pont Steffan, cyn-enillydd Cân i Gymru yn 1991.
- ‘Seren’ – gan y tad a’r ferch, Mari Lövgreen a Geraint Lövgreen, gyda Mari Lövegreen yn ysgrifennu’r geiriau am y profiad o fod yn fam a’i thad yn cyfansoddi’r alaw, ag yntau wedi ennill Cân i Gymru yn 1980 a 1982.
- ‘Pryder’ – gan Sophie Jayne Marsh o Sir Fôn sydd perfformio a chyfansoddi ers dwy flynedd.
- ‘Rhywun Cystal â Thi’ – gan Eady Crawford o Ferthyr Tudful sy’n chwaer i’r gantores Kizzy Crawford.