David Bowie - ei farwolaeth wedi sbarduno gwerthiant recordiau feinyl
Mae gwerthiant recordiau feinyl wedi cyrraedd eu lefel uchaf ers 25 mlynedd, gyda mwy na 3.2 miliwn wedi’u gwerthu y llynedd.

Dyma’r ffigwr blynyddol mwyaf ers 1991, gyda cherddoriaeth David Bowie yn gwerthu orau ar finyl yn dilyn ei farwolaeth sydyn ym mis Ionawr 2016.

Dyma’r nawfed flwyddyn i ffigurau recordiau finyl gynyddu ac maen nhw bellach yn cyfrif am 5% o’r farchnad albymau.

‘Arwydd o addewid’

Mae’r diwydiant gerddoriaeth yn gyffredinol yn profi cyfnod llewyrchus, gyda chynnydd mawr mewn gwasanaethau ffrydio a lawrlwytho cerddoriaeth gan gynnwys Spotify, Apple, Deezer a Tidal.

Er hyn, roedd ffigurau gwerthiant cryno-ddisgiau wedi disgyn 10% yn ôl Diwydiant Ffonograffig Prydain (BPI).

Dywedodd Geoff Taylor, Prif Weithredwr y BPI: “dan arweiniad gwerthiant David Bowie, mae’r galw am finyl wedi neidio i lefelau na welwyd ers dechrau’r nawdegau…

“Rydym yn credu bod y perfformiad hwn yn arwydd o addewid o gyfnod newydd i gerddoriaeth,” meddai.