Sŵnami wedi derbyn pedwar enwebiad eleni
Mae trefnwyr Gwobrau’r Selar wedi cyhoeddi’r ddwy restr fer olaf ar gyfer y noson wobrwyo, wrth i’r paratoadau olaf gael eu gwneud ar gyfer y digwyddiad yn Aberystwyth nos Sadwrn.

Bydd enillwyr mewn 12 categori yn cael eu gwobrwyo ar y noson, sydd yn cael ei chynnal yn adeilad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.

Yn ôl y trefnwyr mae disgwyl hyd at 1,000 o bobol yn y gynulleidfa, ar gyfer gig a fydd yn cynnwys perfformiadau gan Sŵnami, Ywain Gwynedd, Band Pres Llarreggub, Ysgol Sul a mwy.

Band Pres Llarreggub sydd yn arwain y ffordd eleni gydag enwebiad ar bump o’r rhestrau byrion, gan gynnwys y Gân Orau, y Band Gorau a’r Record Hir Orau.

Dwy restr fer

Y rhestrau byrion diwethaf i gael eu cyhoeddi oedd ‘Digwyddiad Byw Gorau ’, a noddir gan Stiwdio Gefn, ac ‘Offerynnwr Gorau’ a noddir gan Goleg Ceredigion.

Gŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd, Maes B yn Eisteddfod Maldwyn a Gig Candelas, Sbectol a Mr Phormula gan gwmni theatr Frân Wen ydy’r tri digwyddiad a ddaeth i frig pleidlais y cyhoedd ar gyfer y digwyddiad byw eleni.

Roedd categori ‘Offerynnwr Gorau’ yn newydd i’r Gwobrau y llynedd, gyda Lewis Williams, drymiwr Sŵnami a Candelas yn cipio’r wobr. Mae’r rhestr fer eleni’n cynnwys Gwilym Bowen Rhys (Plu/Y Bandana), Guto Howells (Yr Eira) ac Owain Roberts (Band Pres Llareggub).

Rhestrau Byrion Gwobrau’r Selar 2015 yn llawn:

Cân Orau (Noddir gan Ochr 1): Foxtrot Oscar – Band Pres Llareggub; Trwmgwsg – Sŵnami; Aberystwyth yn y Glaw – Ysgol  Sul

Hyrwyddwr Gorau (Noddir gan Radio Cymru): Maes B; Cymdeithas yr Iaith Gymraeg; 4 a 6

Cyflwynydd Gorau (Noddir gan Heno): Huw Stephens; Lisa Gwilym; Dyl Mei

Artist Unigol Gorau (Noddir gan Rondo): Gwenno; Yws Gwynedd; Welsh Whisperer

Band Newydd Gorau (Noddir gan Gorwelion): Terfysg; Cpt Smith; Band Pres Llareggub

Digwyddiad Byw Gorau (Noddir gan Y Stiwdio Gefn): Tafwyl; Maes B; Gig Candelas, Sbectol a Mr Phormula – Frân Wen

Offerynnwr Gorau (Noddir gan Coleg Ceredigion): Gwilym Bowen Rhys; Guto Howells; Owain Roberts

Gwaith Celf Gorau (Noddir gan Y Lolfa): Dulog – Brigyn; Sŵnami – Sŵnami; Mae’r Angerdd Yma’n Troi’n Gas – Breichiau Hir

Band Gorau (Noddir gan Brifysgol Aberystwyth): Candelas; Band Pres Llareggub; Sŵnami

Record Hir Orau (Noddir gan Rownd a Rownd): Tir a Golau – Plu; Sŵnami – Sŵnami; Mwng – Band Pres Llareggub

Record Fer Orau (Noddir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg): Nôl ac Ymlaen – Calfari; Dy Anadl Di / Pan Ddaw Yfory – Yws Gwynedd; Bradwr – Band Pres Llareggub

Fideo Cerddoriaeth Gorau (Noddir gan S4C): Ble’r Aeth yr Haul – Yr Ods; Sebona Fi – Yws Gwynedd; Pan Ddaw’r Dydd – Saron