Philip Jones Griffiths
Ffotograffydd o Gymru, a dynnodd rhai o luniau mwyaf eiconig Rhyfel Fietnam, yw testun rhaglen ddogfen newydd sy’n dathlu gwaith a bywyd y ffotograffydd byd-enwog, y diweddar Philip Jones Griffiths.
Hanner can mlynedd ers i’r ffotograffydd o Ruddlan fynd i Fietnam am y tro cyntaf, ac yn yr un wythnos y byddai wedi dathlu ei ben-blwydd yn 80, bydd S4C yn dathlu ei fywyd drwy ddogfennu’r hyn a’i gwnaeth yn enwog – ei gyfnod yn tynnu lluniau yn ystod rhyfel.
Bydd y rhaglen yn cael ei lansio am y tro cyntaf yn Llundain heno (nos Fawrth, 16 Chwefror).
Delweddau graffig
Dechreuodd Ryfel Fietnam yn 1954 rhwng Gogledd Fietnam a De Fietnam ac ymunodd byddin Yr Unol Daleithiau yn 1965. Daeth y rhyfel i ben yn 1975.
Yn ystod y rhyfel tynnodd Philip Jones Griffiths rai o’r delweddau mwyaf graffig o’r gwrthdaro oedd yn dangos sut effeithiodd y rhyfel ar bobl gyffredin Fietnam a milwyr ifanc.
Bydd y rhaglen hefyd yn clywed gan y rhai oedd agosaf ato; teulu a ffrindiau yn ogystal â chydweithwyr yn cynnwys John Pilger, Don McCullin a’r Athro Noam Chomsky.
‘Cyfraniad anferth’
Dywedodd Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys S4C: “Cafodd athroniaeth a rhagolwg Philip ei siapio gan ei fagwraeth yng Nghymru, ac nid yw fyth wedi anghofio hyn.
“Roedd ei gyfraniad tuag at bobl Fietnam yn anferth, ac fe barhaodd i weithio ar eu rhan am weddill ei fywyd. Fel darlledwr cenedlaethol Cymru, rydym yn hynod o falch i gyflwyno’r deyrnged hon iddo, ac i gofio ei etifeddiaeth.”
Mae’r rhaglen ddogfen yn gyd-gynhyrchiad rhwng cwmni cynhyrchu Rondo Media, a chwmni cynhyrchu o Dde Corea, JTV, Jeonju Television.
Bydd y rhaglen ddogfen Philip Jones Griffiths: Ffotograffydd Rhyfel Fietnam yn cael ei darlledu ar S4C nos Sul, 28 Chwefror.