Gyda chyngherddau a pherfformiadau cerddoriaeth byw dal ddim yn gallu cael eu cynnal, penderfynodd Phil Gas fynd a’i ganeuon at y bobol ar strydoedd Caernarfon.

Heddiw (Awst 7) buodd Phil Gas yn perfformio o flaen siop sglodion J&C’s Caernarfon am awr a hanner.

“Roedd hi’n braf cael canu o flaen pobol eto, nes i really mwynhau,” meddai Phil Gas wrth golwg360.

“Dw i heb allu perfformio o gwbl ers mis Mawrth, ac mae’r band wedi colli ffortiwn oherwydd hynna.

“Felly roedd hi’n neis gallu dod oddi yno efo ambell bunt yn fy mhoced.”

Yn sgil llwyddiant ei berfformiad, dywed Phil Gas ei fod yn bwriadu teithio o gwmpas Arfon yn chwarae cerddoriaeth.

“Dw i’n meddwl mai i Feddgelert a i nesaf,” eglura Phil Gas.

“Mae hi wastad yn brysur yn fanno a bydda hi’n dda gallu chwarae o flaen mwy o bobol.”

Albwm newydd erbyn y Nadolig

Mae Phil Gas a’r band yn perfformio caneuon gwerin ac mae eu sain yn cynnwys tri llais, ukulele, gitâr, gitâr fas a phiano.

Cafodd sengl gynta’r criw, ‘Seidar ar y Sul’, ei rhyddhau ym mis Tachwedd 2017, a dilynodd eu halbym gyntaf – O Nunlle –  bron i flwyddyn yn ddiweddarach ar Fedi 7 2018.

Mae Phil Gas a’r band yn gobeithio rhyddhau albwm newydd erbyn y Nadolig.

“Rydym eisoes wedi recordio pedair cân, demo’s felly, ac wedi sgwennu chwech arall,” meddai.

“Felly’r gobaith ydi gallu mynd mewn i’r stiwdio pan mae hi’n saff a rhyddhau albwm erbyn y Nadolig.”