Mae’r canwr, Elton John a’i bartner, David Furnish wedi priodi – naw mlynedd i’r diwrnod ers iddyn nhw ymrwymo i’w gilydd mewn seremoni bartneriaeth sifil.

Fe gynhaliwyd y seremoni ar stad Windsor heddiw.

Ben bore, roedd Elton John wedi cyhoeddi llun yn dangos ffenestr a gardd ar y we, gyda’r neges Saesneg, “Good morning! Nice day for a wedding. #ShareTheLove”

Mae’r pâr yn magu dau fab bychan gyda’i gilydd, Zachary ac Elijah.