Bydd modd ail fwynhau rhai o raglenni cartŵn mwyaf poblogaidd S4C wrth i’r sianel lansio CywTiwb dros gyfnod y Nadolig.

Bydd SuperTed a Wil Cwac Cwac ymysg y rhaglenni fydd yn dychwelyd i’r sianel ddydd Sul, 28 Rhagfyr a ddydd Sul 4 Ionawr wrth i S4C bennu awr o’r amserlen ar y dyddiau hynny i ail ddangos cartŵns.

Rhai o’r clasuron animeddiedig eraill ar CiwTiwb fydd Joshua Jones, Lisabeth, Sam Tân, Siôn Blewyn Coch, Sgerbyde, Slici a Slac a Miffi.

Bydd pennod Nadoligaidd o Siôn Blewyn Cochhefyd i’w gweld ar S4C ar ddydd Sul, 28 Rhagfyr.

“Ychwanegu at lwyddiant”

Mae Comisiynydd Plant a Phobl Ifanc Sioned Wyn Roberts yn hyderus y bydd ansawdd y rhaglenni poblogaidd hyn yn ychwanegu at lwyddiant darpariaeth gwasanaeth S4C ar gyfer plant.

“Mae’n bleser i ni gael croesawu SuperTed, Wil Cwac Cwac, Sgerbydau a llwyth o gartwnau eiconaidd y gorffennol yn ôl ar S4C.

“Bydd CywTiwb yn gyfle i genhedlaeth newydd o blant fwynhau amryw o gartwnau mwyaf poblogaidd a wnaed yng Nghymru yn y 30 mlynedd diwethaf.

“Dim ond dwy awr sydd wedi eu hamserlennu ond os ydy CiwTiwb yn apelio i’r gynulleidfa, mae digon o benodau eraill yn yr archif!”