Y Selar
Mae’r cylchgrawn cerddoriaeth, Y Selar, wedi cyhoeddi’r rhestrau byr ar gyfer eu gwobrau blynyddol, heddiw.
Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae’r bleidlais yn agored i’r cyhoedd ar wefan y cylchgrawn.
Ymysg y categorïau mwyaf cyffrous eleni mae’r wobr am y gân orau, gyda’r enillydd i ddod o’r rhestr fer o ‘Dolffin Pinc a Melyn’ – Jen Jeniro,’ Y Bêl yn Rowlio’ – Yr Ods, a ‘Cân y Tân’ – Y Bandana.
Mae Gildas, Huw M a The Gentle Good yn brwydro am yr artist unigol gorau
“Rydan ni’n rhoi tipyn o egni i mewn i drefnu’r gwobrau gan roi tipyn o bwyslais arnyn nhw yn y cylchgrawn,” meddai golygydd Y Selar, Owain Schiavone.
“Dwi’n meddwl ei bod yn wirioneddol bwysig i gael gwobrau fel hyn i ddathlu llwyddiant y sin dros y flwyddyn a fu.”
“Mae’r sin mewn man peryglus ar hyn o bryd lle mae nifer o ffactorau yn gweithio yn ei herbyn. Mae angen hwb ar yr artistiaid yma sy’n gweithio’n galed, ac mae ennill gwobr am eu hymdrechion yn gallu rhoi hwb mawr i fand neu artist i barhau.”
Gwobrau i’r diwydiant
Yn ogystal â’r gwobrau arferol i fandiau ac artistiaid, fe fydd y Selar yn cyflwyno rhai gwobrau i’r diwydiant hefyd eleni.
“Mae angen tynnu sylw at y gwaith da mae trefnwyr a hyrwyddwyr yn ei wneud i hybu’r sin,” meddai Owain Schiavone.
“Mae pobl gan gynnwys Dilwyn Llwyd yng Nghaernarfon ac wedyn Guto Brychan a chriw Nyth yng Nghaerdydd, yn gwneud gwaith arbennig i hyrwyddo gigs ac yn haeddu bod ar y rhestr fer yn y categori ‘Hyrwyddwr Gorau’.”
Bydd yr enillwyr yn cael eu datgelu yn rhifyn nesaf Selar sy’n cael ei gyhoeddi ar ddydd Mawrth, 8 Mawrth.
Bydd y rhifyn hwnnw hefyd yn cynnwys rhestr 10 uchaf albyms Cymraeg 2010, sydd wedi eu dewis gan gyfranwyr rheolaidd y cylchgrawn ac sy’n eitem flynyddol boblogaidd iawn.
Mae’r rhestrau byr fel a ganlyn:
Sengl orau 2010
Rhestr fer: Dal dy Drwyn / Cân y Tân – Y Bandana; Dolffin Pinc a Melyn – Jen Jeniro; Cyfrinach – Clinigol
Ep Gorau 2010
Rhestr fer: Yr Ods – Yr Ods; Cerdyn Nadolig – Colorama; Swigod – Clinigol
Clawr CD gorau 2010
Rhestr fer: Nos Da – Gildas; Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn – Cowbois Rhos Botwnnog; Yr Ods – Yr Ods
Cân orau 2010
Rhestr Fer: Dolffin Pinc a Melyn – Jen Jeniro; Y Bêl yn Rowlio – Yr Ods, Cân y Tân – Y Bandana
Band Newydd Gorau 2010
Rhestr Fer: Sensegur; Crash.Disco!; Yr Angen
Artist unigol gorau 2010
Rhestr Fer: Gildas; Huw M; The Gentle Good
Digwyddiad Byw gorau 2010
Rhestr Fer: Gadael yr Ugeinfed Ganrif; Maes-B, Eisteddfod Glyn Ebwy; Gŵyl Gwydir
DJ gorau 2010
Rhestr Fer: Crash.Disco!; Huw Stephens; Meic P
Hyrwyddwr gorau 2010
Rhestr fer: Dilwyn Llwyd; Guto Brychan, Criw Nyth
Band gorau 2010
Rhestr Fer: Y Niwl; Y Bandana; Yr Ods