Mae canwr un o grwpiau mwyaf Cymru yn y ddegawd ddiwethaf, Frizbee, yn bwriadu cychwyn recordio deunydd newydd yn dilyn ymateb ffafriol i’w sesiwn ar raglen C2 BBC Radio Cymru.

Roedd Ywain Gwynedd, un o dri chyn-aelod Frizbee, yn cyflwyno tri thrac newydd ar sioe Lisa Gwilym nos Fercher.

Nerfus

Ac yn dilyn ymateb ffafriol a gafodd yn sgil y sesiwn, cadarnhaodd Ywain wrth golwg360 ei fod yn bwriadu recordio mwy o ddeunydd cyn diwedd y flwyddyn.

“Roedd yr ymateb i’r sesiwn yn wych ar y noson ac mae yna ychydig o negeseuon wedi cyrraedd wedyn hefyd sy’n gadarnhaol,” meddai Ywain.

“Oni’n nerfus i wneud y sesiwn gan mai hwn oedd y tro cynta’ i mi wneud rhywbeth heb aelodau band i rannu’r baich.

“Roeddwn i wedi cychwyn ar gân Dolig wrth recordio’r sesiwn efo Rich Roberts yn Ferlas, ac oherwydd y sylw gafodd y caneuon eraill dwi wedi penderfynu bwcio mwy o amser stiwdio ar ddiwedd mis Tachwedd i orffen honno a recordio cwpl o ganeuon eraill.”

Dywedodd nad oedd cynllun pendant ganddo o beth roedd am wneud eto, a’i fod dal wrthi’n ceisio penderfynu ar steils gan fod llawer o’r caneuon sydd ganddo eisoes mor wahanol i’w gilydd.

Band newydd?

Ac er nad oes unrhyw gigs ar y gweill iddo ar hyn o bryd, mae’n chwarae a’r syniad o ffurfio band i chwarae gydag ef.

“Mae’n demtasiwn cychwyn band newydd ac mae ychydig o gerddorion dw i wedi ystyried i chwarae efo fi,” meddai Ywain. “Ond fyddai’m yn holi neb i neud dim byd nes dwi’n gwybod be dwi am wneud.”

Rhaglen C2

Ar raglen C2 BBC Radio Cymru gyda Lisa Gwilym nos Fercher, fe ddywedodd Gwynedd ei fod yn teimlo’i fod yn hen bryd rhoi cynnig ar ddychwelyd i’r sin roc Gymraeg.

Cafodd tri thrac newydd a recordiwyd ganddo eu chwarae ar y rhaglen, sef ‘Neb ar ôl’, ‘Codi Cysgu’ a ‘Sodlau’.

Dywedodd Gwynedd ar y pryd ei fod yn falch iawn o’r cyfle i chwarae sesiwn fach yn y stiwdio, a’i fod eisiau gwybod beth oedd pobl yn feddwl o’r caneuon newydd.

“Ma’r sin roc Gymraeg yn hynod o gryf ar hyn o bryd,” meddai ar C2. “Rhoi’n nhroed yn y dŵr yn ôl ydw i ar hyn o bryd, a gweld be ma’ pobl yn feddwl.”

“Os does na’m ymateb wedyn ai nol o dan garreg a fyddwch chi’m yn gorfod clywed gennai byth eto!”

Dywedodd ei fod yn awyddus i wneud albwm roc rhywbryd – yn ogystal â chyfaddef bod rhai o’i ganeuon newydd yn eithaf tebyg o ran steil i Frizbee!

Ond fe gadarnhaodd nad oedd ailffurfio’r band yn debygol o ddigwydd.

Mae’r cyfweliad llawn Ywain Gwynedd ar raglen C2 ar gael fan hyn: http://www.bbc.co.uk/iplayer/cy/episode/b03d0grh/C2_Lisa_Gwilym_16_10_2013/