Ddydd Sadwrn yma, bydd yna drafodaeth yng Ngŵyl Lyfrau Penfro yn Rhosygilwen ar pam fod rhai awduron yn dewis ysgrifennu’n Gymraeg ac yn Saesneg? Pam fod eraill yn dewis un iaith ac yn gwrthod y llall?
Y Prifardd Ceri Wyn Jones fydd yn holi Damian Walford Davies, Ian Rowlands, Francesca Rhydderch ac Elinor Wyn Reynolds am awduron dwyieithog a dwyieithrwydd llenyddiaeth Cymru.
“Dw i’n edrych mlaen i glywed beth sydd gan y pedwarawd i’w ddweud, pob un ohonynt yn siaradwyr difyr ac yn cynrychioli cymaint o weddau ar weithgarwch llenyddol dwy iaith llenyddiaeth Cymru, yn feirdd a llenorion, dramodwyr a golygyddion,” meddai Ceri Wyn Jones wrth Golwg 360.
Mae yntau’n Brifardd, ac wedi ennill gwobrau cenedlaethol am ei gerddi’n Gymraeg – ac wrth ei waith bob dydd, mae’n Olygydd i Lyfrau Oedolion i Gomer. Mi oedd hefyd yn athro Saesneg am flynyddoedd.
Ond hyd yma, dyw e ddim wedi mentro ysgrifennu’n greadigol yn Saesneg.
“Fel mae’n digwydd, dw i ddim yn ysgrifennu’n greadigol yn Saesneg; dw i’n cael digon o ffwdan gwneud hynny’n Gymraeg, a dweud y gwir!” meddai.
Rydyn ni’n hen gyfarwydd â gweld cyhoeddi cyfieithiadau o naill iaith i’r llall, meddai eto, ond rhywbeth a ddaeth yn fwy poblogaidd yn ddiweddar yw llenorion sy’n ysgrifennu’n greadigol yn y naill iaith a’r llall.
“Mae enillydd y Goron eleni, Gwyneth Lewis, wrth gwrs, wedi bod yn gwneud hyn ers blynyddoedd, ac mae enillydd Llyfr y Flwyddyn eleni, Jon Gower, yntau yn yr un olyniaeth.
“Ond mae rhai awduron Cymraeg yn gwrthod gwneud hyn – rhai ohonynt am resymau gwleidyddol, mae’n siŵr.
“Rhai o’r cwestiynau sy’n siŵr o godi ar y noson yw beth sy’n cymell yr awduron hyn i weithio mewn mwy nag un iaith, a beth yw goblygiadau hyn oll i’r diwylliant uniaith Gymraeg.”
Bydd y drafodaeth yma yn digwydd nos Sadwrn yma, 7.30pm, yn Neuadd y Dderwen, Rhosygilwen.
Llinos Dafydd