Harri Webb (Llun - Julian Sheppard)
Dyma’r gyntaf mewn cyfres o ddyfyniadau o hunangofiant newydd Meic Stephens  – ‘Cofnodion’ sy’n cael eu cyhoeddi’n ecsgliwsif ar Golwg360 yr wythnos hon.

Yn y rhan hon o’r gyfrol mae’n trafod ei gyfeillgarwch â Harri Webb…

Pan ymunais â staff Ysgol Ramadeg Glynebwy ym mis Medi 1962 ro’n i’n ddibriod ac yn byw yng Ngarth Newydd, hen dŷ enfawr ym Merthyr nad o’dd neb yn berchen arno. Ro’n i wedi cyfarfod â Harri Webb ym mis Awst yn yr Old Arcade, un o dafarndai olaf Caerdydd i gatw rhywfaint o’i swyn Edwardaidd.

Bu bron i’r cyfarfod ’bennu mewn trychineb. Gyda fy mhenelin ar y cownter, ro’n i wedi bod yn sgwrsio â Harri pan dda’th hynafgwr atom a gweud wrtho, yn gwrtais iawn, ‘Excuse me, sir, your friend’s on fire.’ Ac yn wir, ro’dd y patsh lleder ar fy nghot yn mudlosgi. Ro’dd e wedi cyffwrdd â’r fflam fechan a o’dd ar y cownter i gynnau sigarau. Ni neidiodd Harri i’m hachub rhag llosgi (do’dd e ddim mor sionc â hynny), ond dyma fe’n dal fy mraich yn yr awyr a thywallt peint o Guinness i lawr fy llawes, gan ddiffodd y fflamau…

Dw’i ddim yn cofio am beth o’dd y sgwrs y noson ymfflamychol honno, ond fe wn taw dyna ddechrau ein cyfeillgarwch. Er ein bod yn aelodau o Blaid Cymru, perthyn i’r ’Whith o’n ni’n dau ac ro’n ni am weithio dros y Blaid yn y De-ddwyrain, y rhan o Gymru a o’dd yn mynd i fod yn allweddol yn yr ymgyrch i ennill hunanlywodraeth, yn ein barn ni. Erbyn stop-tap yn yr Old Arcade y noson honno ro’n i wedi derbyn ei wahoddiad i ymuno ag ef yng Ngarth Newydd…

Ro’n i’n dishcwl ar Harri fel cynghorwr a chyfaill. Eto i gyd, anodd o’dd dioddef ei ymddygiad ar adegau. Pe bai rhywpeth yn ei gynhyrfu – ac ro’dd yn hawdd ei wylltio â’r peth lleiaf – arferai stwffio ei fysedd i’w geg a chrynu am funudau cyfain cyn iddo adennill ei gydbwysedd nerfol. Ro’n i a thrigolion eraill Garth Newydd wedi dysgu anwybyddu hyn ond ro’dd pobol eraill yn cael eu dychryn.

Bu’n rhaid imi esbonio iddynt wedyn fod nerfau Harri wedi eu handwyo gan y gynnau mawr tra o’dd e yn y Llynges yn ystod y rhyfel. Anoddach o’dd esbonio ei ymarweddiad wrth y ford swper a’i ddiffyg glanweithdra personol. Serch hyn oll, ro’n ni’n ffrindiau da ar hyd y blynyddo’dd.

Mae mwy nag un person wedi gofyn imi a o’dd Harri’n wrywgydiwr. Yr ateb yw nago’dd, yn bendant. Rwyf wedi darllen ei ddyddiaduron, sy’n rhedeg dros ddeucen o flynyddo’dd, lle mae’n rhestru’r menwod a ga’s ryw ’dag e…

Yr hyn nad yw pobol yn gwypod yw bod Harri wedi byw gyda menyw yng Nghaerdydd yn ystod y Pum Degau, yn nyddiau’r Gweriniaethwyr, cyn ffoi rhagddi i Cheltenham, a bod gan y ddau ferch fach sydd erbyn hyn dros ei thrigain.

Mae ‘Cofnofion’ wedi’i gyhoeddi gan wasg y Lolfa ac ar gael i’w phrynu o’r wefan nawr.

Bydd dyfyniad difyr arall o’r gyfrol yn ymddangos ar Golwg360.com yfory.