Mae teulu yn Ynys Môn a “ddaliodd eu tir” yn erbyn datblygwyr Wylfa Newydd wedi bod yn ysbrydoliaeth i Cefin Roberts ar gyfer ei drydedd nofel.
Mae Os Na Ddôn Nhw… yn gyflwynedig i deulu fferm Caerdedog, a wrthododd werthu rhan o dir y fferm i Horizon Ltd ar gyfer datblygu Wylfa Newydd.
“Roeddwn i wedi bod yn gwneud ychydig o ymchwil ar y cyfrifiadur er mwyn gweld beth oedd yn digwydd, a sylweddoli bod yna dai yn cael eu dymchwel a chymuned, i raddau, yn cael ei chwalu’n raddol er mwyn gwneud y datblygiad,” meddai cyd-gyfarwyddwr Ysgol Glanaethwy wrth golwg360.
“Yn sgil hynny, fe ddois i ar draws hanes fferm Caerdedog a’r teulu sydd wedi bod yn ffermio ar y darn yma o dir ers blynyddoedd – 600 mlynedd a mwy dw i’n meddwl.
“Dw i’n eu hedmygu nhw am sefyll dros yr hyn maen nhw’n credu ynddo fo a’u hawliau, a dyna pam dw i’n cyflwyno’r nofel iddyn nhw.”
Y teitl – “cyd-ddigwyddiad”
Mae’r nofel ei hun yn sôn am berthynas dau gymeriad pegynol, sef Anest – actores broffesiynol sydd wedi sawru ar y byd Cymreig; a Cemlyn – gwladwr ac actor amatur sy’n byw gyda’i fam anghofus ar gyrion Ynys Môn.
Mae’r arddull yn amrywio o’r dwys i’r digri, gyda phytiau o sgript ffilm wedi eu plethu i’r naratif.
Ond o ran y dewis o deitl, dywed yr awdur mai “cyd-ddigwyddiad” yw’r ffaith bod Hitachi wedi cyhoeddi ar ddechrau’r flwyddyn bod datblygiad Wylfa Newydd ar stop.
“Mae’r teitl gen i ers tua phum mlynedd,” meddai Cefin Roberts. “Beth sy’n ddiddorol yw nid dyma’r tro cyntaf i amheuaeth godi [ynghylch Wylfa].
“Mae’r ‘Os Na Ddôn Nhw’ wedi bod dros y datblygiad ers blynyddoedd, ond fe ddoth yn wirioneddol amserol pan wnaeth Hitachi dynnu allan.”
Mae modd clywed Cefin Roberts yn darllen darn o’r nofel isod….