Mae’r canwr, Rhys Meirion, yn dweud ei fod yn cael “profiad pleserus” yn ddiweddar wrth fentro i fyd cyhoeddi llyfrau.

Ers cael “blas” ar ysgrifennu ei hunangofiant, Stopio’r Byd am Funud Fach (2014), mae’r cyn-brifathro wedi bod yn gyfrifol am olygu tair cyfrol dros y ddwy flynedd diwethaf.

Yn ogystal â derbyn gwahoddiadau i fod yn olygydd, fel yn achos Cerddi’r Sêr a Cerddi’r Sêr 2, dywed Rhys Meirion ei fod hefyd wedi mentro i gynnig rhai syniadau o’i eiddo ei hun i weisg yng Nghymru.

“Efo’r llyfr diweddaraf – Storis Grav – ddwy flynedd yn ôl roedd hi’n ddeng mlwyddiant ers i ni golli Grav, ac roeddwn i’n gweithio ar raglen [Deuawdau Rhys Meirion] gyda Frank Hennessy, ac fe aethon ni i lawr i Barc y Scarlets i siarad efo hwn a’r llall,” meddai wrth golwg360.

“Oherwydd roedd y sgwrs yn troi at Grav yn naturiol, roedd yna storis gan bawb yn dod allan, ac roeddwn i’n meddwl y buasai’n bechod os bydd y straeon yma i gyd yn mynd yn angof.

“Fe wnes i gysylltu efo’r Lolfa efo’r syniad y buaswn i’n hel y straeon yma, ac y byddan nhw’n eu cyhoeddi nhw. A dyna fel yr oedd hi…

“Pan ydw i’n cael syniad am rywbeth fel yna, dw i’n teimlo fy mod i isio ei wneud o.”

‘Llonyddwch’

Er cael hwyl wrth ymwneud â’r byd llyfrau, mae Rhys Meirion yn mynnu mai dim ond “bob hyn a hyn” yr hoffai wneud y gwaith, gan ei fod eisoes yn brysur gyda’r canu a’r darlledu, meddai.

Er hyn, mae’n ychwanegu bod yna “rywbeth cathartic” mewn ysgrifennu llyfr, er bod y gwaith yn gallu bod yn “her” ar adegau.

“Mae rhywun yn cael llonydd – mae’n rhaid cael llonydd,” meddai.

“Mae cymryd rhyw awr, dwy awr neu dair awr i eistedd i lawr a gneud o a mynd i ryw fyd bach dy hun – mae hwnnw’n beth braf…”

Yn dilyn Nadolig prysur, dyma Rhys Meirion yn sôn am yr “her newydd” sydd ganddo ar y gweill…