Mae cynhadledd arbennig ym Mhrifysgol Aberystwyth heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 24) yn dathlu pen-blwydd dwy gyfrol fawr yn hanes llenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif.

Mae’n ganrif ers cyhoeddi Taliesin gan John Morris-Jones, ac 80 mlynedd ers i Canu Aneurin gan Ifor Williams ymddangos am y tro cyntaf.

Fe fydd academyddion o brifysgolion Aberystwyth, Bangor a Rhydychen yn dod ynghyd i ddathlu’r ddwy gyfrol yn y gynhadledd ‘John Morris-Jones, Ifor Williams a’r Hengerdd’ yng Nghanolfan Medrus ar gampws Penglais y brifysgol rhwng 10yb a 4yp.

Cyflwyniadau

Fe fydd cyflwyniadau yn ystod y bore gan Angela Grant, sydd newydd gwblhau doethuriaeth ym Mhrifysgol Rhydychen, Dr Alexander Falileyev sy’n arbenigwr ar ieithoedd Celtaidd, a’r Athro Peredur Lynch o Brifysgol Bangor.

Bydd cyflwyniadau yn ystod y prynhawn gan yr Athro John Koch o Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, a dau Athro Emeritws ym Mhrifysgol Aberystwyth, yr Athro Patrick Sims-Williams a’r Athro Marged Haycock.

Dr Simon Rodway, darlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth, sydd wedi trefnu’r gynhadledd.

‘Dathlu cyfraniad’

Nod y gynhadledd yw dathlu cyfraniad John Morris-Jones ac Ifor Williams i lenyddiaeth Gymraeg, ac ystyried eu gwaith yn feirniadol yng ngoleuni ysgolheictod diweddar.

“Roedd ‘Taliesin (y Cymmrodor 28)’ yn y bôn yn adolygiad o ‘Poems from the Book of Taliesin’ Gwenogvryn Evans (1915), a ddisgrifwyd gan Morris-Jones yn “one huge mistake”, ond roedd llawer mwy na hynny hefyd, gan ei fod yn cynnwys golygiadau o’r cerddi a briodolir gan Morris-Jones i’r Taliesin hanesyddol, sef y bardd a fu yn ei flodau yn y chweched ganrif,” meddai Dr Simon Rodway.

“I bob pwrpas, mae ‘Taliesin’ yn gosod seiliau astudiaeth fodern o’r hengerdd. Adeiladwyd ar y seiliau hyn yn enwedig gan Ifor Williams, un o ddisgyblion Morris-Jones, a gyhoeddodd olygiadau arloesol o rai o’r cerddi cynnar pwysicaf, gan gynnwys Canu Aneirin ym 1938, h.y. y Gododdin a briodolir i Aneirin, a oedd yn cydoeswr â Thaliesin.

“Mae syniadau Morris-Jones ac Ifor Williams am ganu Taliesin a chanu Aneirin wedi cael eu herio dros y degawdau, ond maent yn dal yn dra dylanwadol, yn enwedig ar lefel boblogaidd.”