Mae Trefnydd yr Ŵyl Gerdd Dant yn dweud y bydd yn rhaid “addasu, arbrofi ac amrywio” os am gadw diddordeb y to ifanc yn yr hen draddodiadau Cymraeg.
Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ym Mlaenau Ffestiniog – y tro cyntaf i ŵyl genedlaethol ddod i dre’r llechi ers Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 1936.
Yn ôl y trefnydd, er bod yr ŵyl wedi denu cryn frwdfrydedd eleni – gyda disgwyl i 1,500 gystadlu mewn 35 o gystadlaethau yfory – bydd rhaid ystyried cyflwyno dulliau newydd yn y dyfodol agos.
“Mae’r ŵyl yn cadw at ei thraddodiadau eleni, ond ella bod angen edrych ar weithgareddau ar gyfer y dyfodol, lle rydan ni’n addasu, yn amrywio ac yn arbrofi ychydig bach mwy,” meddai John Eifion wrth golwg360.
“Mae’n rhaid i ni ystyried pob mathau o bethau er mwyn cadw’r diddordeb ac i gadw fo’n gyfoes, ac i gynnal y diddordeb.”
Un o’r syniadau yr hoffai John Eifion eu gweld yn cael eu hystyried yw gweithgaredd tebyg i’r Stomp Cerdd Dant yn Nhŷ Gwerin yr Eisteddfod Genedlaethol, a fyddai yn dod ag ychydig o “adloniant”, meddai.
Gŵyl undydd
Bydd Gŵyl Gerdd Dant Blaenau Ffestiniog a’r Fro yn cael ei chynnal yn Neuadd Ysgol y Moelwyn, a bydd y rhagbrofion cyntaf yn cychwyn am wyth y bore.
Mae’r cystadlaethau’n amrywio o ganu cerdd dant i lefaru i ganu alaw werin a dawnsio gwerin, ac mae disgwyl i gystadlu brwd y dydd barhau tan hanner nos.
“Mae’n braf gweld gŵyl genedlaethol fel yr Ŵyl Gerdd Dant yn dod i Flaenau, ac mae pobol Blaenau wedi perchnogi’r ŵyl,” meddai John Eifion ymhellach.
“Mae hi’n un o’r gwyliau undydd cystadleuol mwyaf sydd gynnon ni fel cenedl.”