Mae Terwyn Tomos o Landudoch yn dweud ei fod e’n “blês iawn” ar ôl ennill Cadair Eisteddfod y Wladfa yn Trelew ddoe (dydd Sadwrn, Hydref 27).
Fe enillodd am y farddoniaeth orau yn y Gymraeg, a’r gystadleuaeth yn gofyn am gyfres o gerddi ar y testun ‘Ffoi’. Hanes y Wladfa oedd pwnc ei waith.
Beirniaid y cystadlaethau llenyddiaeth eleni oedd Hywel Griffiths a Karen Owen.
‘Hynod o falch’
“O’n i’n blês iawn, roedd hi’n hyfryd cael gwneud,” meddai Tereyn Tomos wrth golwg360 drannoeth y seremoni, lle cafodd ei gynrychioli gan ei ffrind, Dai Jones o Aberteifi.
Daw ei fuddugoliaeth ddiweddaraf ddwy flynedd ar ôl y ddiwethaf, ac fe ddywed nad oedd yn disgwyl ennill y tro cyntaf.
“Wnes i ennill y gadair unwaith o’r blaen pan o’n i ma’s yna ar ymweliad, a wnes i fwynhau’r profiad o fod yna.
“O’n i ddim yn disgwyl ennill ar y pryd, ond o leia’ gelen i feirniadaeth, ond fe wnes i [ennill].
“Pan welais i’r Rhestr Testunau y tro yma, penderfynais i drio ac rwy’n hynod o falch o gael ennill eto.”
Y gwaith buddugol
Hanes y Wladfa oedd ysbrydoliaeth Terwyn Tomos ar gyfer ei waith buddugol.
“Roedden nhw’n dechrau gyda hanes y caledi yng Nghymru, a wedyn rhywfaint bach o hanes y daith, a rhyw gerddi wedyn yn cyfeirio at rai o’r digwyddiadau mwya’ hanesyddol y 150 a mwy o flynyddoedd diwetha’, ac wedyn sut mae pethau yna heddiw. Rhyw bedair neu bump o gerddi i gyd.”
Am nad oedd yn gallu bod yn Trelew ar gyfer y seremoni, roedd yn gwrando ar y gystadleuaeth yn fyw ar y we.
“Ges i sylwadau eitha’ positif, a dweud y gwir. Yr unig beth anffodus oedd o’n i ddim yn gallu clywed y feirniadaeth ar gyfer y lleill.
“Dim ond y feirniadaeth ar gyfer y gerdd wnaeth ennill wnaethon nhw ei rhoi, felly o ran cymhariaeth, dwi ddim yn gwybod ond o’n nhw i gyd yn gadarnhadol ac yn canmol, ac ro’n i’n falch iawn o hynny.”
‘Dai Jones yn barod i nôl y gadair’
Wrth lwc, mae ei ffrind, Dai Jones o Aberteifi, yn digwydd bod allan yn y Wladfa ar hyn o bryd, lle mae ei ferch yn athrawes. Fe aeth i’r seremoni ar ran Terwyn Tomos i gasglu’r gadair.
“Ro’n i wedi cael gair clou yn ei glust e jyst cyn iddo fe fynd iddo fe fod yn barod i fynd i nôl y gadair, a chwarae teg iddo fe, fe wnaeth,” meddai Terwyn Tomos.
“Ro’n i’n hynod siomedig fy mod i’n methu mynd allan i’w chasglu hi fy hunan, achos mae’n lle arbennig iawn i ymweld ag e.”