Mae peryg i’r Orsedd a’r Eisteddfod Genedlaethol “edrych fel sefydliad patriarchaidd, deinosoraidd” pe na fydd trafodaethau’n digwydd ar addasu’r seremonïau.
Dyna farn enillydd y gadair ym mhrifwyl Caerdydd eleni, sy’n dweud ei bod hi’n bryd cwestiynu rhai elfennau o seremonïau’r Orsedd.
“Byddai cael bechgyn yn rhan o’r Ddawns Flodau, ac addasu rhywfaint ar honno ddim yn ddrwg o beth,” meddai Gruffudd Owen, 32.
“Yn yr un un modd, efallai bod eisio edrych ar elfen sermonïol o Fam y Fro a Morwyn y Fro.
“Yr holl bwrpas ydi bod gennych chi wragedd yna ond… mae Mam y Fro yno yn rhinwedd ei ffrwythlondeb ei bod hi’n fam, a Morwyn y Fro yno yn rhinwedd y ffaith ei bod hi’n forwyn. Mae o’n teimlo bach yn anghyffyrddus.
“Mae hi’n teimlo fel tasan ni mewn cyfnod o fflycs mawr iawn ar hyn o bryd fel cymdeithas, yn enwedig wrth ystyried patriarchaeth a rôl merched. Mae eisio i ni fod yn effro i hynny ac ymateb i hynny neu mae yna beryg i’r Orsedd ac i’r Eisteddfod edrych fel sefydliad patriarchaidd, deinosoraidd.”
Y cyfweliad yn llawn i’w weld yng nghylchgrawn Golwg.