Mae na “ddiffyg mawr” yn ymwybyddiaeth y cyhoedd am blanhigion Cymru, meddai enillydd gwobr Llyfr y Flwyddyn 2018.
Dyna yw barn Goronwy Wynne, sydd wedi treuliodd dros ugain mlynedd yn ysgrifennu ei gyfrol fuddugol, Blodau Cymru: Byd y Planhigion.
Mewn sgwrs â golwg360 mae Goronwy Wynne yn cydnabod nad oes llawer o ddiddordeb gan y cyhoedd yn y maes, ond er hynny, mae wedi’i galonogi gan yr ymateb i’w lyfr.
“Mae’n cael ei ddweud yn aml iawn yn Gymraeg ac yn Saesneg bod ‘na ddieithriwch mawr ym myd y planhigion,” meddai. “Mwy nac ym myd yr adar.
“Ond a bod yn onest, dw i ‘di cael syndod bod y llyfr wedi gwerthu cystal. Mae’r 600 cyntaf wedi cael eu gwerthu bron ar unwaith, ac mae ‘na ail argraffiad ac yn y blaen.
“Felly maen amlwg fod pobol yn darllen ac yn mwynhau byd y blodau. Ac mae hynna wedi codi fy nghalon i.”