Gan mai Amgueddfa Cymru Sain Ffagan sy’n noddi’r Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni – i ddathlu pen-blwydd y sefydliad yn 70 oed – roed y cerflunydd, Chris Williams yn awyddus i gynnwys hynny yn y gwaith.
“Mae wedi’i hysbrydoli gan nifer o wahanol gadeiriau y bûm yn ymchwilio iddynt yng nghasgliad Sain Ffagan,” meddai’r saer sy’n dod o Pentre yn y Rhondda ac â’i weithdy yn Ynyshir.
“Mae’r dyluniad yn fodern gyda chyffyrddiadau traddodiadol, ond eto mae iddi bresenoldeb cadair seremonïol, diolch i elfennau fel y sedd lydan a throm, y breichiau agored a’r cefn uchel.”
Dewisodd greu cadair â sedd a chefn o bren llwyfen gyda choesau a breichiau o bren onnen. Mae’r sedd a’r cefn wedi’u hengrafu yn ysgafn â phatrwm gwlân traddodiadol sy’n seiliedig ar garthen yng nghasgliad Sain Ffagan, ac a wehyddwyd ym Melin Wlân Esgair Moel, un o’r adeiladau cyntaf i gael ei ail-godi yn yr Amgueddfa Werin ym 1952.
Eleni, cynigir y gadair am awdl ar fwy nag un o’r mesurau traddodiadol, heb fod yn hirach na 250 o linellau ar y testun ‘Porth’. Y beirniaid yw Ceri Wyn Jones, Emyr Davies a Rhys Iorwerth.