Mae yna ormod o bobol o’r un cefndir a’r un dosbarth yn cyhoeddi llyfrau yng ngwledydd Prydain, meddai bardd sydd â’i deulu’n hanu o Gyprus ond a gafodd ei fagu yng nghyffiniau Llundain.
‘Heterogeneous’ oedd teitl cyflwyniad Anthony Anazagorou ar un o lwyfannau Gwyl y Gelli dros y Sul – y bardd cyntaf i ennill Slam Farddoniaeth Maer Llundain yn 2002 sydd wedi dod yn berfformiwr rheolaidd ar orsafoedd radio yn Lloegr.
Wrth ddarllen cerddi newydd, mae’n ceisio dangos pa mor amrywiol a diddorol ydi’r byd, yn arbennig o safbwynt pobol ifanc. Ond, y duedd trwy’r amser ydi rhoi pobol a phethau mewn bocsys.
Dyna, mae’n awgrymu, sydd wrth wraidd hiliaeth, rhyfeloedd crefyddol, dibyniaeth a chamdriniaeth.
“Fe allwch chi ddysgu rhywbeth mewn llyfr, fe all sgwrs eich sadio chi, fe all cerdd eich denu chi i’w charu hi, fe all athrylith eich ysbrydoli chi, ond dim ond chi fedr arbed eich hunan,” meddai.
A dyna pam y mae’n credu bod angen i fwy o amrywiaeth o bobol fod yn cyhoeddi eu gwaith a’u syniadau, er mwyn adlewyrchu’r amrywiaeth anferth o bobol yn y byd – o ran hunaniaeth, hil, hanes a rhyw.