Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi’r teitlau sydd ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og am eleni.

Ers eu sefydlu yn 1976, mae’r gwobrau’n cael eu rhoi yn flynyddol gan y Cyngor Llyfrau i anrhydeddu gwaith gwreiddiol gan awduron ac arlunwyr llyfrau plant yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Maen nhw’n cael eu noddi gan y Cyngor Llyfrau ei hun a CILIP Cymru, sef Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth Cymru.

Ac yn ôl Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau, mae’r llyfrau sy’n ymddangos ar y rhestr fer yn y ddwy iaith yn arwydd o “safon arbennig” llyfrau plant a phobol ifanc yn Nghymru.

“Y mae’r llyfrau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn arwydd o safon arbennig llyfrau plant a phobol ifanc yng Nghymru, a thestun balchder mawr yw gweld trawstoriad o themâu amrywiol yn dod i’r amlwg,” meddai.

Mae gwobrau ar gyfer tri chategori, sef categori cynradd Cymraeg, categori uwchradd Cymraeg a chategori’r llyfr Saesneg gorau sydd â chefndir Cymreig dilys.

Bydd y ddwy wobr Cymraeg yn cael eu cyflwyno ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd ar Fai 31, tra bydd y wobr Saesneg yn cael ei rhoi yng nghynhadledd CILIP Cymru yn Aberystwyth ar Fai 9.

Y Rhestr Fer Gymraeg

  • Yma: Yr Ynys gan Lleucu Roberts;
  • Merch y Mêl gan Caryl Lewis;
  • Gethin Nyth Brân gan Gareth Evans;
  • Mae’r Lleuad yn Goch gan Myrddin ap Dafydd;
  • Y Melanai: Efa gan Bethan Gwanas;
  • Dosbarth Miss Prydderch a’r Carped Hud gan Mererid Hopwood.

Y Rhestr Fer Saesneg

  • Santa’s Greatest Gift gan Tudur Dylan Jones;
  • King of the Sky gan Nicola Davies;
  • St David’s Day is Cancelled! Gan Wendy White;
  • Gaslight gan Eloise Williams
  • The Jewelled Jaguar gan Sharon Tregenza;
  • The Nearest Faraway Place gan Hayley Long.