Alaw Mai Edwards sydd wedi’i phenodi’n Olygydd Creadigol Cyhoeddiadau Barddas.
Mae hynny’n golygu mai hi fydd yn gyfrifol am gyhoeddi llyfrau newydd o dan enw Barddas, tra bo Twm Morys yn parhau’n olygydd ar y cylchgrawn chwarterol o’r un enw.
Daw Alaw Mai Edwards o Faerdy ger Corwen, ac fe fydd yn ymuno â Barddas ar ôl bod yn gweithio yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth.
Yno, fe fu’n rhan o brosiectau ymchwil Barddoniaeth Guto’r Glyn a Chwlt y Seintiau yng Nghymru.
“Ehangu cynulleidfaoedd”
Yn ôl Alaw Mai Edwards, mae’n gyfnod “eithaf cyffrous” i farddoniaeth Gymraeg, gyda beirdd fel Llion Jones, Eurig Salisbury ac Aneirin Karadog eisoes yn cy
flwyno’r cyfrwng i gynulleidfaoedd gwahanol.
“Mae’r sylfeini cadarn wedi’u gosod yn barod, mewn gwirionedd,” meddai wrth golwg360.
“Dw i am barhau i wneud y gwaith mawr sydd wedi’i wneud eisoes, a chyhoeddi cyfrolau eang eu hapêl, a gobeithio denu cynulleidfa newydd at farddoniaeth Gymraeg.
Fe fydd yn dechrau yn y swydd wythnos i ddydd Lun, Chwefror 26.