Bu farw’r bardd a’r academydd, Robert Maynard Jones (Bobi Jones), yn 88 oed.

Fe fu’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn feirniad llenyddol, ac yn arch dynnwr blew o drwyn y sefyliad llenyddol Cymraeg, a hynny gyda hiwmor tawel. Roedd yn Gristion o argyhoeddiad.

Mae ei gerdd, Hunllef Arthur, a gyhoeddwyd gan Gyhoeddiadau Barddas yn 1986, yn cael ei hystyried y gerdd hiraf yn yr iaith Gymraeg. Mae’n ymestyn tros 21,000 o linellau a 24 o ganiadau.

Ond, fel un a gafodd ei eni a’i fagu yng Nghaerdydd yn y 1930au, mynd ati i ddysgu’r Gymraeg pan yn ddyn ifanc a wnaeth Bobi Jones – a dyna un o’r rhesymau pam iddo fod yn un o gyd-sylfaenwyr CYD (Cymdeithas y Dysgwyr).

Roedd yn Llywydd Anrhydeddus y gymdeithas tan y diwedd.

Athrylith’

“Mae’n rhaid dweud mi oedd Bobi Jones yn athrylith, does dim dwywaith am hynny,” meddai’r Prifardd Alan Llwyd a fu’n cyhoeddi nifer o’i gyfrolau yn ystod ei gyfnod yn olygydd Cyhoeddiadau Barddas.

“Roedd Bobi’n credu mewn cynhyrchu, ac roedd o wrthi bob munud o bob dydd, dyna oedd ei fywyd,” meddai gan ddweud y byddai’n gweithio ar ddarnau llenyddol hyd at y diwedd.

“Mae ganddo ei wefan ei hun, ac mae yna ddeunydd yno nad sydd wedi’u cyhoeddi ar ffurf llyfr,” meddai gan ychwanegu fod tipyn o’i waith heb weld golau dydd eto.

Mae’n dweud ei fod yn credu mewn gweithiau “mawr a meddylgar”.

“Y bwgan mawr i Bobi oedd y busnes gorboblgrwydd,” meddai Alan Llwyd. “Roedd o’n credu mai’r gweithiau mawr, meddylgar sy’n aros, a dyna oedd o’n ei weithredu ei hun.”

Mae’n ei ddisgrifio hefyd yn feirniad llenyddol, Cristion a gŵr a wnaeth gymaint dros y Gymraeg.

“Mae ei hunangofiant o O’r Bedd i’r Crud yn dweud y cyfan wrth iddo ddisgrifio’r Gymraeg fel rhyw fath o ddadeni iddo wrth iddo ddarganfod profiad mor aruthrol gyda’r iaith.”