Y Tywysog Charles
Mae Tywysog Cymru wedi penodi Cymraes yn fardd swyddogol a hithau wedi’i argyhoeddi bod angen arwyddion dwyieithog yn Lloegr a Chymraeg yn ysgolion a llysoedd barn y wlad honno hefyd.
Dyna yw byd dychmygol nofel fer newydd gan y llenor Meic Stephens.
“Dechreuodd y stori fel nofel ddychan,” meddai’r Athro Meic Stephens, am A Bard for Highgrove: A likely story a ysgrifennodd yn ystod eira’r Nadolig a’r Calan y llynedd.
“Ond mae’n cymryd lot i gadw dychan i fynd trwy gydol y nofel, felly fe wnes i droi’r stori i ddull ffars. Dw i’n hoff iawn o ffars fel arddull, a falle dyna pam dw i’n gymaint o ffan o’r gyfres Friends ar y teledu!
“Dw i newydd fod ar Radio 1, ar raglen fy mab Huw (Stephens), yn trafod Friends fel mae’n digwydd, ac yn ateb cwestiynau ar y gyfres. Fe ges i saith allan o 10 yn gywir! Bydden i’n galw’r gyfres yna’n ffars.”
Abswrd
Y teulu brenhinol yw’r cocyn hitio yn y stori, sy’n dechrau’n ddigon diniwed tan gyrraedd y diwedd cwbl abs?rd.
“Dydw i erioed wedi deall beth yw apêl brenhinoedd yn gyffredinol am fy mod yn weriniaethwr ac yn ddemocrat mae’n siŵr. Dw i jyst ddim yn deall yr holl beth.” meddai Meic Stephens.
“Dw i’n credu bod Charles ei hun yn ffigwr mor pathetig, unig ac amherthnasol ond er gwaetha hynny, mae ganddo lot o ddylanwad.
“Mae wrth ei fodd yn dylanwadu a medlan ym materion pensaernïol ac amgylcheddol heb fod ganddo unrhyw brofiad o’r byd real. Felly roedd yn gocyn hitio teilwng i’r stori, a Camilla a fe yn brif gymeriadau.”
Darllenwch weddil y stori yng nghylchgrawn Golwg, 9 Rhagfyr