Mae’r gyfrol lenyddol ddiweddaraf gan awduron ifanc Cymru yn bwriadu herio’r syniadau mawr sy’n cael ein derbyn yn y gymdeithas ar hyn o bryd.

Bydd y toriadau, cynnaliadwyedd, a’r ‘gymdeithas fawr’ ymhlith y pethau sy’n cael eu gwyntyllu a’u cwestiynu yn y gyfrol ddiweddaraf o Tu Chwith, sy’n cael ei lansio wythnos Eisteddfod Wrecsam.

Thema rhifyn diweddaraf y cylchgrawn yw ‘Cymdeithas’, ac mae’r gyfrol yn cynnwys ymatebion creadigol, erthyglau a gwaith celf, i’r pwnc dan sylw – tasg oedd yn “dipyn o her i’r cyfranwyr,” yn ôl golygydd y rhifyn hwn, Osian Rhys Jones.

“Er bod rhyw optimistiaeth gynnil yn dal i belydru’i olau yn dilyn canlyniad refferendwm y Cynulliad eleni mae yna gymylau digon tywyll uwchben o hyd; y cyni economaidd, bygythiadau i’r sefydliadau sy’n hanfodol i barhad ein hiaith, yn ogystal â datblygiad dyddiol straeon cenedlaethol am newyddiadurwyr a heddweision llwgr,” meddai.

“Er gwaethaf hynny ymatebodd y cyfranwyr yn y rhifyn hwn trwy gynnig llwybrau newydd i ni eu dilyn.

“Dengys Gwenith Hughes yn ei herthygl “Cymdeithas Gynaliadwy” fod cynaliadwyedd yn greiddiol hanfodol i barhad ein cymdeithasau gan gynnig rhai ffyrdd y gallwn gyflawni’r nod hwnnw. Yn erthygl Esyllt Williams, ‘Defnyddio cerddoriaeth i ddod â chymunedau ynghyd’, fe ddadlennir i ni nad yw’r gair “cymuned” yn gyfystyr ymhob diwylliant.

“Mae pob cyfraniad i’r rhifyn, ym mha bynnag gyfrwng, yn dangos bod llais gan lenorion a beirdd Cymru, boed yn hawddfyd neu adfyd.”

Trosglwyddo’r Awennau

Bydd y gyfrol hon yn cael ei golygu’n arbennig gan Osian Rhys Jones, y bardd o’r Ffôr, sydd wedi ymgymryd â’r dasg wrth i olygyddion newydd gael eu traed tanyn nhw wrth olynnu’r cyn-olygydd, Menna Machreth.

“Mae hi wedi bod yn fraint aruthrol i fi gael golygu cylchgrawn Tu Chwith, a dod i gysylltiad â doniau celfyddydol ar draws Cymru,” meddai Menna Machreth.

Ar ddechrau Awst eleni, bydd golygyddion nesaf y cylchgrawn yn cymryd yr awennau – ac mae dwy wedi penderfynnu ymgyrmryd â’r dasg ar y cyd y tro hwn: Elin Angharad Owen a Rhiannon Marks.

Mae Elin, sy’n hanu o Nefyn, bellach yn astudio ar gyfer doethuriaeth yn Adran Gymraeg Prifysgol Aberystwyth, tra bod Rhiannon, sy’n hanu o Gil-y-Cwm yn Sir Gâr, newydd orffen ei doethuriaeth yn yr Adran yn atsudio gwaith ffeminyddol Menna Elfyn.

Bydd y gyfrol ddiweddaraf o Tu Chwith yn cael ei lansio ddydd Sadwrn, 6 Awst, yn y Babell Lên am 11am, gyda chyfle i glywed rhai cyfranwyr yn darllen eu gwaith, a chyfarfod â’r golygyddion newydd.