Oherwydd ei fod mor boblogaidd, mae theatr Bara Caws wedi trefnu perfformiad ychwanegol o’i gynhyrchiad diweddaraf.
Bydd cyfle ychwanegol i weld addasiad llwyfan y cwmni o’r nofel fawr ‘Un Nos Olau Leuad’ ar nos Fawrth, 12 Ebrill yn Y Galeri, Caernarfon.
“Mae’r ymateb i’r cynhyrchiad yma wedi bod yn rhyfeddol,” meddai Linda Brown, gweinyddydd Bara Caws, wrth Golwg360.
“Rydan ni wedi bod yn chwarae i dai llawn drwy gydol y daith ac mae niferoedd lawer o bobol wedi cysylltu â ni yn awyddus i weld y sioe cyn iddi gau.”
Ar ôl y perfformiad hwn, fe fydd Bara Caws yn dechrau paratoi ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam. Yn y dref hon yn 1977 y cyflwynodd Bara Caws ei sioe glybiau gyntaf erioed, sef ‘Croeso i’r Roial’.
Mae’r cwmni’n awyddus i “ddathlu’r ail-ymweliad drwy gyflwyno dwy sioe arbennig,” yn ôl Linda Brown.
Bryn Fôn a Tudur Owen
“Yng nghlwb y RAFA ar gyrion y maes, bydd Bara Caws yn cyflwyno sioe glybiau gan y digrifwr Eilir Jones – ‘Un Fach Flewog’ – gyda’r hen stejars poblogaidd Bryn Fôn, Maldwyn John, Gwenno Ellis Hodgkins, Catrin Mara ac Iwan Charles a John Glyn yn barod i gymryd yr awenau fel cyfarwyddwr,” meddai Linda Brown.
Fe fydd ail sioe’r cwmni ‘ X’Fod! ‘yn cael ei pherfformio yn y maes carafanau gyda chast sy’n cynnwys Iwan John, Catrin Jane Evans, Lisa Jên, Neil (Maffia) Williams ac Arwyn Jones. Tudur Owen a Tony Llewelyn sy’n sgwennu’r sioe gyda Martin Thomas yn ceisio cadw trefn ar bethau.
Roedd Linda Brown yn annog pobl i brysuro âg archebu tocynnau gan ychwanegu “‘y basa’n bechod gorfod disgwyl 34 mlynedd arall am y profiad”.