Doedd dim amheuaeth gan fardd o Gaerdydd mai yn y Gymraeg y byddai’n ysgrifennu cyfrol newydd o farddoniaeth yn sôn am golli’i thad.
Mae Gwyneth Lewis ar fin cyhoeddi’r gyfrol Treiglo mewn noson i godi arian at Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, nos Wener (Hydref 20).
Esbonia fod ysgrifennu’r gyfrol yn “rhan o’r broses alaru” ar ôl colli’i thad, a’i bod yn cyfuno hynny â’i wybodaeth drylwyr yntau o reolau treiglo’r iaith.
“Yn ein teulu ni, fe oedd yr unig un oedd yn gyfarwydd â’r rheolau treiglo,” meddai wrth golwg360.
“Roedd y gweddill ohonon ni’n treiglo’n reddfol, ac mi wnes i feddwl wedyn am natur treiglo, am y symud a’r cyfnewid. Dw i wedi cyfuno hynny gyda’r profiad o’i weld e’n heneiddio ac yn marw, a sut mae’r iaith yn newid wrth i’r hen do symud ymlaen.”
Colli ‘coethder’ yr iaith
Mi oedd tad Gwyneth Lewis yn wreiddiol o Gwm Ogwr a’i mam yn wreiddiol o Geredigion a bu ysgrifennu’r gyfrol hon yn “beth naturiol i’w wneud”.
“Dw i wedi’i ddefnyddio fel ffordd i ddod i dermau gyda phethau,” meddai Gwyneth Lewis a fu’n Fardd Cenedlaethol Cymru yn 2005.
“Mi ddaeth fy rhieni i Gaerdydd i chwilio am waith, a dyna ble cefais i fy magu, ac roedd natur Cymraeg y ddau ohonyn nhw’n rhan bwysig o’r berthynas,” meddai.
“Mi fues i’n meddwl wedyn ein bod ni’n colli un siaradwr Cymraeg arall. Mae safon arbennig i Gymraeg pobol yn eu hwythdegau erbyn hyn, ac mae rhyw ddiwylliant arbennig ynghlwm â’u hiaith, fel y capel a’r eisteddfod. Ac mi fues i’n meddwl ein bod ni’n colli’r coethder yna sydd yn eu hiaith.”