BBC National Short Story Award
Mae stori fer gan ŵr o Aberaeron wedi’i henwebu ar gyfer un o brif wobrau llenyddol gwledydd Prydain, sef BBC National Short Story Award.
Mae Cynan Jones yn un o bump a allai ennill £15,000 am ei waith pan fydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi ymhen pythefnos (Hydref 3).
Stori fer am ddyn sydd wedi’i ddal ar gaiac ar y môr sydd gan Cynan Jones, ac fe gafodd ei dewis gan feirniaid o blith 600 o straeon a ddaeth i law.
Mae’r awduron eraill yn cynnwys Will Eaves, Jenni Fagan, Benjamin Markovits a Helen Oyeyemi gyda phob un yn derbyn £600 yr un.
Stori gariad a stori antur
Esboniodd Cynan Jones fod y stori, ‘The Edge of the Shoal’, wedi’i chyhoeddi’r llynedd yng nghylchgrawn The New Yorker a bod y cyhoeddwyr wedi cysylltu gydag ef ar ôl darllen ei nofel ddiweddaraf, Cove.
“Mi oedd honno’n nofel dynn o 11,500 o eiriau’n unig, ac mi oedd The New Yorker eisiau ei chyhoeddi, ond fe wnaethon nhw ofyn imi ei thorri yn ei hanner mewn pedwar diwrnod,” meddai Cynan Jones wrth golwg360, gan esbonio mai’r cynnyrch hwnnw yw’r stori fer hon.
“Dw i’n tueddu i ganolbwyntio ar yr ochr weledol ac mae’r golygfeydd bron yn ffilmig.
“Mae’r golygfeydd yn eithaf syml. Mae dyn yn mynd allan ar gaiac i wasgaru llwch ei dad mewn bae sy’n gyfarwydd iddo. Ond mae’n mynd ymhellach i’r môr i bysgota ac yn cael ei ddal mewn storm a’i daro gan fellten.
“Mae’n deffro wedyn ynghanol y môr, y cesair a physgod marw a’r ymwybyddiaeth o bwy yw e yn deilchion. Mae yna frwydr gorfforol wedyn i oroesi a rhyw ymdeimlad o ofal fod yn rhaid iddo fynd yn ôl at rywbeth.
“Mae’n stori gariad gymaint ag y mae’n stori antur.”
‘Daearu yn y tirlun’
Mae Cynan Jones yn adnabyddus am ysgrifennu am fywyd cefn gwlad gyda’i lyfrau The Long Dry, The Dig ac Everything I Found on the Beach wedi’u cyfieithu i amryw o ieithoedd.
Dywed mai’r peth pwysicaf i awdur yw “i fod yn onest”.
“Mae fy ngwaith i wedi’u daearu’n ddwfn yn nhirlun gorllewin Cymru. Dyna ble cefais i fy magu, cynnyrch o’r ardal hon ydw i. Roedd gan fy nhad-cu a mam-gu fferm y tu allan i Lanrhystud, ac mae fy straeon yn codi o’r llefydd yma.
“Dw i wedi bod ar gaiac i’r bae fel y cymeriad yn The Edge of Shoal. A dyna beth sy’n bwysig, i fod onest fel awdur.
“Mae Caryl Lewis yn dod o ffarm, ond os mae rhywun o ganol Caerdydd yn penderfynu ysgrifennu nofel am fferm achos mae’r rheiny yn boblogaidd, yna dyw hynny ddim yn onest,” meddai.
“Mae’n bwysig hefyd i beidio â’i ddefnyddio [cefn gwlad] fel addurn i greu naws dramatig, ond yn hytrach gadael i’r stori godi’n naturiol.”
Mae fersiwn ar-lein o stori The Edge of Shoal wedi’i chyhoeddi yma ar wefan The New Yorker.