Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru Llun: Emyr Llewelyn Jones
Mae Bardd Cenedlaethol Cymru ar fin mynd â sioe am hanes Hedd Wyn i gynulleidfaoedd yng Nghymru ac Iwerddon.

Mi fydd sioe ‘Y Gadair Wag’ yn dechrau yn Nhrawsfynydd ymhen yr wythnos cyn teithio i Ddulyna Belffast ac i ganolfannau yng Nghymru hefyd.

“Mi’r oeddem ni’n awyddus i osod yr hanes mewn cyd-destun ehangach,” meddai Ifor ap Glyn wrth golwg360 gan esbonio fod y sioe yn ymgais i gyflwyno hanes Hedd Wyn yn ogystal â chyd-destun y cyfnod.

“Mae’n gyfuniad o ddarlith a pherfformiad mewn sioe un dyn  sy’n gwneud defnydd o fideos a thraciau sain,” meddai wedyn.

Beirdd

Mi fydd beirdd eraill yn ymuno yn y sioe drwy gyfrwng ffilm a sain, ac mae’r rhain yn cynnwys Myrddin ap Dafydd, Marged Tudur a Sian Northey.

“Mae’n troi o gwmpas barddoniaeth gan ddyfynnu o waith Hedd Wyn hefyd,” meddai.

Eglurodd y bydd dwy gerdd yn y Wyddeleg yn seiliedig ar waith y bardd o Iwerddon, Francis Ledwidge gafodd ei ladd ar yr un diwrnod â Hedd Wyn ym mrwydr Passchendaele ar Orffennaf 31, 1917.

“Yn y Saesneg roedd o’n sgwennu, ond un o’r themâu rydan ni’n trafod ydy dwyieithrwydd felly rydan ni’n cynnwys cyfieithiadau,” meddai Ifor ap Glyn.

Barddoniaeth colled

Mae’r sioe wedi’i chyfarwyddo gan Ian Rowlands, a’r artist Jason Lye sy’n gyfrifol am y deunydd gweledol a digidol.

“Mae yna gymaint o bethau wedi bod i gofio Hedd Wyn, ac ymgais hyn yw ei roi mewn cyd-destun ehangach hefyd,” meddai Ifor ap Glyn.

Mae’r sioe’n rhan o brosiect ‘Barddoniaeth Colled’ gan Lenyddiaeth Cymru a Rhaglen Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf – Cymru’n Cofio.