Tony Bianchi, pan enillodd y Fedal Ryddiaith yn 2015 (Llun Golwg360)
Doedd yna ddim enillydd yng nghystadleuaeth fawr y nofel yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn.

Er fod 13 wedi cystadlu, fe ddyfarnodd y tri beirniad nad oedd neb yn deilwng o Wobr Goffa Daniel Owen.

Roedd gormod o “flas drafft gynta” ar lawer o’r cynigion ar y dasg o greu nofel tros 50,000 o eiriau gyda “llinyn storïol cryf”.

O’r llwyfan, fe ddywedodd y nofelydd Bethan Gwanas fod ambell syniad diddorol a chymeriad gafaelgar ond roedd angen mwy o waith “caboli, cynilo a hunan-olygu”. “Mae gwaith caled y tu ôl i bob nofel lwyddiannus ac mae angen chwysu drosti,” meddai.

Cofio Tony Bianchi

Yn ogystal â’r siom, roedd yna elfen ddyfnach o dristwch yn y seremoni … roedd un o’r tri beirniad, Tony Bianchi, wedi marw ychydig wythnosau cyn yr Eisteddfod.

“Roedd y gwaith beirniadu wedi ei gwblhau ymell cyn i ni wybod ei fod yn sâl,” meddai Bethan Gwanas. “Mae’n loes calon i Caryl (Lewis) a finnau ein bod wedi colli Tony Bianchi … bu cydweithio ag o, fel arfer, yn brofiad hyfryd.”

Roedd Tony Bianchi ei hun wedi ennill Gwobr Goffa Daniel Owen union ddeng mlynedd yn ol yn 2007.